‘Newidiodd iaith y teulu dros nos’
- Cyhoeddwyd
"Yr embaras o orfod trio siarad iaith arall efo fy rhieni, a'r chwithdod o fod ddim cweit ar ben fy mhethau yn yr iaith honno - neu felly roedd hi'n teimlo, beth bynnag."
Sut brofiad yw newid iaith yr aelwyd o Saesneg i'r Gymraeg? Ar ddechrau Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae'r gyflwynwraig Beca Brown yn trafod ei phrofiad hi o gael ei magu gan rieni o Loegr a symudodd i Gymru i fyw gan newid iaith yr aelwyd i'r Gymraeg.
Rydw i wedi fy ngeni a fy magu yng Nghymru ac wedi bod mewn addysg Gymraeg ers yr Ysgol Feithrin yn Nyffryn Ardudwy, ond yn Saesneg ges i fy magu hyd fy arddegau cynnar.
Mae fy mam yn dod o Birmingham a fy nhad o Swydd Derby, a dysgu Cymraeg fel oedolion wnaethon nhw. Doedd y daith ddysgu ddim mor heriol i 'nhad gan iddo dreulio rhan o'i blentyndod yng ngogledd Cymru, ond prin fod Mam yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith Gymraeg pan ddaeth hi yma i fyw.
Mae gen i go' byw o'r broses ddysgu aeth fy mam drwyddi - y dosbarthiadau nos a'r rhestrau hirfaith o ferfau ar hen roliau papur wal wedi eu sticio i gefn drws y tÅ· bach.
Dw i'n cofio hi'n mynd i siop y cigydd efo'r geiriau Cymraeg ar ddarnau o bapur yn ei phoced rhag ofn iddi anghofio sut i archebu bacwn yn iaith y nefoedd.
Fel aeth y blynyddoedd heibio fe symudon ni fel teulu o Ardudwy i ardal Caernarfon, a finnau'n mynychu Ysgol Syr Huw Owen - hotbed o Gymreictod naturiol os fuo 'na un erioed.
Roedd gen i Gymraeg go rugl, ond roeddwn i'n dueddol o osgoi ei defnyddio hi, ac yn closio at blant o gefndir ieithyddol tebyg i mi.
Ar yr aelwyd, roedd Mam a Dad yn awyddus inni siarad mwy o Gymraeg efo'n gilydd fel teulu, ond roedd trio gwneud hynny fel artaith i fi.
Yr her o newid iaith
'Nath Mam a Dad benderfynu - dros nos, neu fel 'na roedd hi'n teimlo - ein bod ni'n mynd i newid i siarad Cymraeg adra. O'n i tua 13 oed ac i fod yn onest do'n i ddim o blaid y syniad.
Pan ti'n 13 oed mae bob dim yn embaras anferth a dwyt ti ddim eisiau i unrhywbeth newid na thynnu sylw.
Roedd y newid yn arbennig o heriol i Mam a Dad achos pan mae rhywun wedi hen sefydlu perthynas mewn un iaith mae gorfod ei sefydlu hi eto mewn iaith arall yn dipyn o daith. Roedd hi'n daith droellog i ni fel teulu hefyd, ond fe lwyddon ni, a faswn i ddim yn breuddwydio siarad unrhywbeth ond Cymraeg efo fy rhieni rŵan.
Os mai teimladau digon llugoer oedd gen i am y Gymraeg i ddechrau arni, mae gen i'r Urdd a'r sîn roc Gymraeg i ddiolch iddyn' nhw am agor fy llygaid i'r llu o bleserau a oedd yn cuddio reit o dan fy nhrwyn i.
Wythnos wrth fy modd yn Glanllyn oedd y sbardun ola' ac wedi hynny fe lwyddon ni i newid yr iaith adra, a hynny am byth.
Y ffin rhwng y dysgwr a'r siaradwr rhugl
Dydw i ddim, fodd bynnag, yn siŵr sut i ddisgrifio fy statws i fel siaradwr Cymraeg. Dwi ddim yn cofio dysgu Cymraeg mwy nag ydw i'n cofio dysgu Saesneg, ond dwi wedi dod at y Gymraeg o gyfeiriad gwahanol i'r rhai faswn i'n eu disgrifio fel siaradwyr iaith gyntaf 'go iawn', beth bynnag ydi hynny.
Mae'r Saesneg yn bendant yno o hyd fel rhyw reddf gyntaf, a phan dwi wedi ypsetio neu yn gwylltio mi wnai droi i'r iaith honno heb feddwl. Pan roedd y plant yn fach roeddan nhw wastad yn gwybod i gadw o'r ffordd pan roedd Mam yn dechra tantro yn Saesneg!
Dw i'n teimlo fel siaradwr mamiaith erbyn hyn ond yn Saesneg ges i fy magu, felly mae gen i ffenest ar beth ydy o i ddysgu Cymraeg ac ar y llwybrau lu sy'n arwain rhywun at iaith newydd.
Y cyfnod clo
Does gen i ond y parch mwyaf at y rhai sy'n mynd ati mor ddiwyd i ddysgu Cymraeg, a hynny yn aml iawn gyda fawr ddim cefnogaeth ymarferol o'u cwmpas.
Tra bod nifer fawr ohonom ni wedi treulio'r cyfnod clo yn tyfu tomatos, gwneud surdoes a gwylio gormod o Netflix, mae yna bobl eraill wedi bod yn dysgu Cymraeg.
Mae'r cwmni rydw i'n gweithio iddo fo, SaySomethinginWelsh, wedi gweld y galw am gyrsiau yn treblu ers i Covid-19 daro.
Mae'r rhesymau dros ddysgu Cymraeg mor amrywiol a niferus â'r bobl sydd yn gwneud, ond mae cymhelliad y rhai sy'n byw dros y ffin a dramor dros ddysgu iaith does neb o'u cwmpas yn ei siarad yn ddifyrrach eto.
Y ffaith amdani yw mai ychydig iawn o bobl yng Nghymru fyddai'n dewis peidio siarad Cymraeg petai modd chwifio ffon hud i'w galluogi nhw i wneud hynny. Ein gwaith ni yw i fuddsoddi'n helaeth mewn cyfleoedd sy'n mynd i hwyluso taith dysgu pawb sy' eisiau siarad Cymraeg.
Mae hefyd angen inni ddathlu ymdrechion pob unigolyn sy'n mynd ati i ddysgu - ble bynnag y bônt yn y byd - achos maen nhw'n arwyr. A dyna'r gwir plaen.
Gwrandewch ar Beca Brown yn trafod profiadau dysgwyr pell ac agos o ddysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod clo eleni ar raglen Dyddiadur Dysgwyr yn y Byd ar Radio Cymru.
Hefyd o ddiddordeb