Cynnydd sylweddol mewn diweithdra yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cododd diweithdra yng Nghymru yn sylweddol rhwng Mehefin ac Awst, yn 么l y ffigyrau diweddaraf.

Maen nhw'n dangos bod y gyfradd ddi-waith yng Nghymru bellach yn 3.8% - 15,000 yn fwy o bobl nag yn y tri mis hyd at fis Mai, pan oedd y gyfradd yn 3.1%

Mae diweithdra hefyd wedi codi yn y DU gyfan i 4.5%, neu 1.5m o bobl, yn 么l ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Roedd 500,000 yn llai o bobl yn y DU mewn gwaith erbyn mis Awst o'i gymharu 芒 mis Mawrth eleni, pan darodd y pandemig coronafeirws.

Roedd nifer y bobl a gyflogwyd yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Awst 37,000 yn llai na'r tri mis blaenorol.

Nid yw'r ffigyrau yma'n cynnwys pobl sydd ar gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU.

Ond mae cyflogau cyfartalog yng Nghymru wedi codi'n fwy serth na'r DU.

Mae gweithwyr ar incwm canolig yng Nghymru bellach yn ennill 拢1,800 y mis, sy'n dal i fod yn llai na chyfartaledd y DU.

Dadansoddiad Sarah Dickins, gohebydd economi 91热爆 Cymru

Mae tueddiadau economaidd fel cynnydd mewn cyflogaeth neu fwy o swyddi yn tueddu i effeithio ar Gymru yn hwyrach nag y mae ar y DU gyfan.

Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ffaith mai'r ffigyrau di-waith hyn yw'r gwaethaf y mae'r DU wedi'u gweld ers tair blynedd, ond profodd Cymru'r un lefelau diweithdra 芒 nawr mor ddiweddar 芒 mis Medi 2019.

Mae hynny'n gwneud y cynnydd serth mewn diweithdra yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Awst yn fwy pryderus fyth.

Tyfodd diweithdra Cymru ddwywaith mor gyflym 芒 ledled y DU, er bod llai o weithwyr Cymru - yn 么l cyfran o'r boblogaeth - yn ddi-waith ar hyn o bryd.

Roedd y gostyngiad mewn cyflogaeth yng Nghymru rhwng Mehefin ac Awst, o'i gymharu 芒'r tri mis blaenorol, bum gwaith yn fwy serth na'r dirywiad mewn swyddi ledled y DU.