91热爆

Cyhoeddi cynllun cefnogi swyddi i ddisodli'r ffyrlo

  • Cyhoeddwyd
Rishi SunakFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi manylion cynllun cefnogi swyddi fydd yn disodli'r cynllun ffyrlo presennol pan ddaw i ben ar 31 Hydref.

Fe fydd y Cynllun Cefnogi Swyddi yn cyfrannu arian i hyd at ddwy ran o dair o gyflogau gweithwyr am y chwe mis nesaf meddai Rishi Sunak.

Fe fydd y cynllun ar gael i gwmn茂au sydd methu cynnig gwaith llawn amser i'w gweithwyr fel oedd ar gael cyn yr argyfwng coronafeirws.

Er mwyn bod yn gymwys fe fydd angen i weithwyr weithio o leiaf 33% o'u horiau, ac am weddill yr oriau fe fydd y cyflogwr a'r llywodraeth yn talu traean yr un.

Byddai gweithwyr sydd yn gweithio 33% o'u horiau o dan y cynllun newydd yn derbyn o leiaf 77% o'u cyflog llawn.

Bydd busnesau bach a chanolig yn gymwys ar gyfer y cynllun ond rhaid i fusnesau mawr ddangos fod eu trosiant wedi gostwng yn ystod yr argyfwng.

Bydd modd i gyflogwyr ddefnyddio'r cynllun newydd hyd yn oed os nad oedd eu gweithwyr ar y cynllun ffyrlo yn barod, ac fe fydd y cynllun newydd yn bodoli am chwe mis.

Wrth gyhoeddi manylion y cynllun dywedodd Mr Sunak fod yn rhaid i'r cynllun ffyrlo ddod i ben achos bod angen i'r gefnogaeth "addasu ag esblygu."

Dywedodd nad oedd unrhyw benderfyniad yn anoddach ond roedd yn "sylfaenol anghywir" i gadw pobl mewn swyddi nad oedd yn hyfyw.

"Ni allaf achub pob swydd - ni allai unrhyw ganghellor wneud hynny," meddai wrth aelodau seneddol.

Bydd gostyngiad TAW i gwmn茂au lletygarwch a thwristiaeth yn cael ei ymestyn hyd at fis Mawrth. Roedd y gostyngiad TAW o 20% i 5% ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf i fod i ddod i ben ar 12 Ionawr 2021.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans:

"Ar 么l pwyso am gymhorthdal cyflog ychwanegol rwyf yn croesawu'r Cynllun Cefnogi Swyddi ond rwy'n pryderu nad ydyw'n cyd-fynd gyda buddsoddiad hyfforddiant newydd.

"Nid yw'r Canghellor wedi darparu cefnogaeth ychwanegol i'n sectorau sydd wedi eu taro waethaf fel dur ac awyrofod ac mae pecyn heddiw yn methu a tharo'r nod o gefnogi creu swyddi."

Galwodd llefarydd Plaid Cymru, Ben Lake AS, ar Lywodraeth y DU i "lenwi'r bylchau" yn y cynllun ar frys.

Dywedodd bod gweithwyr llawrydd heb gael "ceiniog o gefnogaeth" ers dechrau'r pandemig, ac "yn anffodus mae'r Canghellor wedi methu a llenwi'r bylchau yna heddiw".

Diweithdra

Roedd pryder y gallai degau o filoedd o weithwyr wynebu diweithdra unwaith y byddai'r cynllun ffyrlo yn dirwyn i ben.

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf hyd at ddiwedd Gorffennaf, roedd 15% o'r gweithwyr oedd yn gymwys ar gynllun ffyrlo yng Nghymru - gyda 12% yn derbyn y cymorth llawn a 3% yn derbyn cymorth yn rhannol.

Ymysg y sectorau oedd fwyaf dibynnol ar y cynllun oedd y celfyddydau, hamdden, lletygarwch, bwyd a diod, a manwerthu.

Cafodd y cynllun ffyrlo ei greu er mwyn atal cynnydd sylweddol mewn diweithdra pan fu'n rhaid i ddiwydiannau cyfan gau wrth i Brydain fynd i gyfnod clo cenedlaethol ym mis Mawrth.

Roedd yn talu 80% o gyflogau gweithwyr oedd ar y cynllun, hyd at gyfanswm o 拢2,500 y mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i'r economi ailagor unwaith eto, gofynnodd y llywodraeth i gyflogwyr dalu 10% o gyflogau gweithwyr, ynghyd 芒 thaliadau Yswiriant Cenedlaethol a chyfraniadau pensiwn.

Mae Llywodraeth San Steffan hefyd yn ymestyn cynllun Benthyciadau Bounce Back, Cynllun Benthyciad Adfer Coronafeirws, Cynllun Benthyciad Adfer Coronafeirws i Fusnesau Mawr, a Chronfa'r Dyfodol hyd at 30 Tachwedd.

Hyd yma mae dros 1m o fusnesau wedi manteisio ar fenthyciadau Bounce Back, gyda maint y benthyciad ar gyfartaledd yn 拢30,000.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y cynllun newydd, dywedodd cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price:

"Mae'r camau beiddgar hyn gan y Trysorlys yn mynd i achub cannoedd ar filoedd o swyddi hyfyw y gaeaf hwn.

"Mae'r canghellor wedi gwrando ar y dystiolaeth gan fusnesau a'r undebau, gan weithredu'n bendant. Bydd yr ysbryd yma o fod yn ystwyth a cydweithio o gymorth i wneud 2021 yn flwyddyn o dwf ac adferiad."