21 yn fwy o farwolaethau wedi eu cofnodi oherwydd oedi
- Cyhoeddwyd
Mae 21 yn rhagor o farwolaethau yn gysylltiedig 芒 coronafeirws wedi eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei ffigyrau diweddara.
Ond dywedodd llefarydd fod y nifer dydd Sadwrn yn uwch oherwydd oedi wrth gynnwys marwolaethau blaenorol, gan gynnwys 17 o ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn gynharach y mis.
Mae'n golygu fod cyfanswm o 1,667 o bobl wedi marw yng Nghymru gyda coronafeirws ers dechrau'r pandemig.
Dywedodd Christopher Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Er bod hwn yn ymddangos yn gynnydd uchel yn nifer y marwolaethau dyddiol, mae'r cynnydd o ganlyniad i'r ffaith fod y ffigyrau yn cynnwys 17 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg rhwng dydd Sadwrn 3 Hydref a dydd Mercher 7 Hydref."
Roedd yna 627 o achosion newydd, gan olygu fod 29,654 wedi profi'n bositif i'r haint yng Nghymru.
Mae'r niferoedd yn cynnwys 79 yng Nghaerdydd, 66 yn Rhondda Cynon Taf, 44 yn Abertawe, 38 yn Sir Fflint, 35 yng Nghaerffili, a 33 ym Merthyr.
Cafodd llai na 29 o achosion eu cofnodi ym mhob un o siroedd eraill Cymru.
Roedd yna 109 o'r nifer yn breswyl y tu allan i Gymru.
Y gred yw mai myfyrwyr yw'r rhain sy'n astudio mewn rhannau arall o'r DU.
Merthyr Tudful sydd 芒'r gyfradd uchaf o achosion dros gyfnod o saith diwrnod, gyda 233.7 bob 100,000 o bobl.
Roedd 179.9 yn Rhondda Cynon Taf a 162.7 yn Sir Fflint.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020