Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Covid-19: Pryder y bydd pwysau eto ar y Gwasanaeth Iechyd
Wrth i'r rhan fwyaf o Gymru wynebu wythnos arall o gyfyngiadau lleol dywed y prif weinidog ei fod yn poeni'n fawr am y nifer cynyddol o achosion o Covid-19 yng Nghymru.
Dywed Mark Drakeford ei fod yn ofni bod y Gwasanaeth Iechyd ar fin wynebu pwysau tebyg i'r hyn oedd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn.
Ddydd Llun mae disgwyl i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, gyhoeddi cyfyngiadau llymach mewn ardaloedd yn Lloegr - yn eu plith dinas Lerpwl.
Mae pobl mewn 17 ardal yng Nghymru yn wynebu cyfyngiadau lleol wedi i'r haint ymledu. Bangor yw'r ardal ddiweddaraf i wynebu cyfyngiadau - fe ddaethant i rym yno nos Sadwrn.
Mae yna drafodaethau wedi bod yn ystod y penwythnos ar a ddylid cymryd camau yn ardaloedd eraill yng Ngwynedd - Arfon a Dwyfor.
Roedd yna 467 achos newydd wedi eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul.
Dywedodd Mark Drakeford fod nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio gan gleifion sydd 芒 choronafeirws wedi "cynyddu yn raddol dros yr wythnosau diwethaf".
Ychwanegodd nad oedd o'r farn fod "Cymru yn yr un sefyllfa 芒 dros y ffin yn Lloegr... ond dwi ddim yn meddwl fod hynny o gysur mawr".
Mae Mr Drakeford yn credu bod yr haint yn lledu fwyaf o fewn y gymuned, yn hytrach nag yn y sector lletygarwch.
"Oni bai ein bod yn gallu gwyrdroi achosion coronafeirws yn y gymuned, byddwn yn gweld ein gwasanaeth iechyd yn dod o dan bwysau sylweddol," meddai.
Ddydd Llun yn Lloegr, mae disgwyl i Boris Johnson gyflwyno system tair haen a fydd yn seiliedig ar ddwyster yr haint mewn gwahanol ardaloedd.
Hyd yma mae Mr Johnson wedi gwrthod galwad gan Mr Drakeford i rwystro pobl rhag teithio i Gymru o fannau yn Lloegr lle mae nifer uchel o achosion.
Yng Nghymru does gan bobl mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol mewn grym ddim hawl i adael heb esgus digonol.
Rhif R yn codi
Dywedodd Mr Drakeford: "Pe baem yn clywed ddydd Llun fod ardaloedd yn Lloegr, lle mae nifer yr achosion yn uchel, yn dilyn canllawiau tebyg i Gymru byddai hynny yn rhyddhad mawr i ni."
Ar draws y DU mae amcangyfrif fod y rhif R - sef y nifer o bobl ar gyfartaledd y mae person heintus yn trosglwyddo Covid iddo - rhwng 1.2 ac 1.5.
Mae unrhyw rif sy'n uwch nag 1.0 yn golygu bod nifer yr achosion yn cynyddu.
Mae disgwyl i Mr Johnson ddweud y bydd rhannau o ogledd a chanolbarth Lloegr yn wynebu cyfyngiadau pellach.
Yn Lerpwl mae disgwyl y bydd tafarndai'r ddinas yn cael gorchymyn i gau am gyfnod wrth i 600 achos ym mhob 100,000 o bobl gael eu cofnodi.
- DYSGU: Yr ail don a'r cyfyngiadau sy'n dod o hynny
- GWYDDONIAETH: Y gwyddoniaeth tu 么l i COVID-19
- IECHYD: Beth yw effaith coronafeirws ar ein corff?
- ADRODDIAD ARBENNIG: Stori un pentref yn ystod y cyfnod clo
- NEWYDDION: Cymru 'mewn sefyllfa fregus' oherwydd Covid-19