91热爆

Cymorth i ddisgyblion wrth geisio adfer Cymru wedi Covid

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd rhagor o gymorth ar gael ar gyfer disgyblion sydd ar eu h么l hi gyda'u gwaith ysgol, yn 么l cynigion i helpu adferiad Cymru wedi'r pandemig.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cynyddu'r cyllid ar gyfer sawl gr诺p oedran, gan gynnwys disgyblion rhwng 16 a 18 oed sy'n paratoi ar gyfer arholiadau.

Mae gweinidogion wedi neilltuo 拢320m ar gyfer polis茂au sydd 芒'r nod o "sefydlogi Cymru" dros y chwe mis nesaf.

Mae yna ymrwymiadau hefyd i ddenu pobl yn 么l i ganol trefi ac i ddelio ag apwyntiadau sgrinio am ganser sydd wedi pentyrru.

Dydy costau penodol llawer o'r cynlluniau yn yr adroddiad heb eu cadarnhau eto.

Wyth o feysydd blaenoriaeth

Daw'r cyllid ar eu cyfer yn sgil arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU, a bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans hefyd yn defnyddio rhywfaith o arian wrth gefn Llywodraeth Cymru, yn 么l swyddogion.

Bydd yr arian yn cael ei wario cyn diwedd tymor presennol Senedd Cymru ac etholiadau'r Senedd, sydd i fod i ddigwydd ym Mai 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu wyth o feysydd blaenoriaeth ar sail ymatebion aelodau'r cyhoedd a sectorau allweddol i'r "sgwrs genedlaethol #CymruEinDyfodol" dros fisoedd yr haf ynghylch sut mae Cymru'n symud ymlaen wedi'r pandemig.

Dywed yr adroddiad y bydd yna ragor o arian ar gyfer "cymorth i bobl ifanc gan gynnwys darpariaeth 'dal i fyny' ychwanegol ar gyfer y rhai ym mlynyddoedd 11 i 13".

Mae hynny'n cynnwys "cofrestru ehangach ar gyfer lleoedd ychwanegol mewn addysg bellach a dyfeisiau digidol i helpu dysgwyr i gael mynediad i'w cyrsiau".

Dywed swyddogion fod yr arian newydd ar ben addewid ym mis Gorffennaf i roi 拢29m at gyflogi rhagor o athrawon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna gyfleoedd i ddylanwadu ar y dyfodol, medd Jeremy Miles

Mae'r arbenigwyr sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at ymchwil yn Lloegr ynghylch effaith bosib y pandemig ar ddisgyblion o'r teuluoedd tlotaf, a'r perygl o danseilio degawd o waith o ran cau'r bwlch cyrhaeddiad.

"Heb unrhyw amheuaeth, bydd ein dyfodol yn edrych yn wahanol o ganlyniad i'r coronafeiws," meddai'r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, sy'n cydlynu gwaith Llywodraeth Cymru o ran symud ymlaen wedi'r pandemig.

"Ond nid yw'r dyfodol hwnnw wedi'i bennu'n gadarn, ac mae gennym ni gyfle i ddylanwadu arno."

Ychwanegodd fod yr ymatebion i'r ymgynghoriad wedi amlygu awydd i greu "dyfodol sy'n decach, lle nad oes unrhyw un yn cael ei ddal yn 么l".

'Sicrwydd mewn cyfnod ansicr'

Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys buddsoddi mewn cynlluniau tai carbon isel, ysgolion a gofal sylfaenol "i greu a gwarchod swyddi adeiladu, darparu cartrefi newydd a mwy ynni effeithlon a rhoi hwb i wasanaethau cyhoeddus".

Mae'n fwriad hefyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, "yn enwedig mewn perthynas 芒 chymunedau BAME sydd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol gan Covid-19".

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans fod Llywodraeth Cymru'n ceisio rhoi "rhywfaint o'r sicrwydd y mae mawr ei angen yn ystod y cyfnod ansicr hwn".

Ychwanegodd: "Er bod llawer o ansicrwydd o hyd yngl欧n 芒'n cyllidebau y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol hon, rwy'n benderfynol o sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael inni i gefnogi ein hadferiad yn cael yr effaith fwyaf bosibl."