91热爆

Mark Drakeford yn agored i dynhau rheolau teithio Cymru

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyn dechrau Gorffennaf roedd pobl yng Nghymru wedi cael eu cyfyngu i "aros yn lleol"

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn agored i ailgyflwyno cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru er mwyn atal ymwelwyr o ardaloedd clo yn Lloegr.

Yr wythnos hon fe wnaeth Mr Drakeford alw ar Boris Johnson i wahardd pobl sydd dan gyfyngiadau clo yn Lloegr i deithio i Gymru ar wyliau, ond dywedodd fore Gwener ei fod yn dal i ddisgwyl am ymateb.

Nid oes modd i bobl sydd mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol yng Nghymru adael y sir heb "esgus rhesymol".

Nid yw mynd ar wyliau yn cael ei ystyried fel un o'r rhesymau yma, ond yn Lloegr nid yw'r fath gyfyngiad yn bodoli.

Mae modd i bobl yn Lloegr sydd dan gyfyngiadau lleol deithio ar wyliau, sydd wedi arwain at gwynion bod pobl o ardaloedd clo yn dal i gael ymweld 芒 Chymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n barod i ystyried cyfyngiadau teithio ar gyfer Cymru gyfan

Ar y Post Cyntaf fore Gwener fe wnaeth Mr Drakeford ailadrodd ei alwad, gan ddweud bod angen yr un rheolau mewn grym i atal pobl sydd dan gyfyngiadau lleol yn Lloegr rhag teithio o'r sir.

Pe na fyddai Mr Johnson yn agored i newid y rheolau dywedodd Mr Drakeford ei fod yn barod i gyfyngu ar deithio yng Nghymru gyfan er mwyn atal ymwelwyr o ardaloedd clo.

Cyn dechrau Gorffennaf roedd pobl yng Nghymru wedi cael eu cyfyngu i "aros yn lleol" gan y rheolau Covid-19 yma.

'Agored i ailfeddwl'

"'N么l ym mis Mai, Mehefin, Gorffennaf pan oedd y rheol yma yng Nghrymu i gadw'n lleol, roedd hi'n amhosibl i bobl o'r tu fas i Gymru deithio i'r gogledd-orllewin er enghraifft," meddai Mr Drakeford.

"Os bydd raid i ni ailfeddwl am bethe fel 'na, wrth gwrs dwi'n agored i feddwl am wneud hynny, ond y peth gorau yw i gael yr un rheol yn Lloegr sy' 'da ni yng Nghymru.

"Ble mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd ble mae'r coronafeirws yn tyfu, dydyn nhw ddim yn gallu teithio i'r mannau yng Nghymru ble mae'r coronfeirws yn dal i fod yn is.

"So dyna be dwi eisiau gweld yn Lloegr - yr un rheol sydd 'da ni yng Nghymru."