91热爆

Covid-19: Gwersi myfyrwyr Aberystwyth 'i fynd arlein'

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth University

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi atal addysgu wyneb yn wyneb am y tro ar 么l i achosion o Covid-19 gael eu darganfod ymysg myfyrwyr.

Fe wnaeth y brifysgol anfon e-bost at bob myfyriwr yn hwyr nos Sul yn dweud wrthynt y bydd yr holl ddysgu'n digwydd o bell oherwydd risg gynyddol o drosglwyddo'r feirws.

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth fod ei phenderfyniad yn seiliedig ar "ansicrwydd" yngl欧n 芒 pha mor bell yr oedd wedi lledaenu.

Ddydd Sul fe adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bum achos newydd yng Ngheredigion, sydd 芒'r gyfradd haint isaf yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae hon wedi bod yn alwad anodd."

Mae dros 8,000 o fyfyrwyr wedi bod yn cyrraedd Aberystwyth dros y 10 diwrnod diwethaf, gan fwy neu lai dyblu poblogaeth y dref.

Nid yw hi'n glir a ydyn nhw'n byw mewn neuaddau preswyl neu lety preifat.

Ddydd Sul hefyd cafodd disgyblion yr Ysgol Ddawns yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, sydd ar gampws y Brifysgol, wybod y byddai eu holl wersi yn cael eu cynnal ar-lein am y tro am nad oes modd defnyddio'r adnoddau.

A phrynhawn dydd Llun fe gadarnhaodd Coleg Ceredigion y byddan nhw'n "symud addysgu ar y campws ar gyfer ein myfyrwyr yn Aberystwyth i gyflwyno ar-lein am y cyfnod dydd Mawrth, 29 Medi i ddydd Gwener, 2 Hydref".

Yn 么l y Coleg fe fyddan nhw'n adolygu'r penderfyniad ddydd Gwener, 2 Hydref gyda'r Cyngor Sir a'r Brifysgol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae poblogaeth Aberystwyth yn treblu pan fod y myfyrwyr i gyd yn 么l

Daw cyhoeddiad Prifysgol Aberystwyth wrth i Gyngor Ceredigion gadarnhau eu bod nhw'n cau pob canolfan hamdden, pwll nofio a chyfleuster o'u heiddo nhw "fel mesur rhagofalus".

Yn yr e-bost mae'r Cyngor yn dweud eu bod nhw wedi dod i'r penderfyniad "gan fod nifer yr achosion o'r Coronafeirws yn cynyddu'n sydyn yng Ngheredigion".

"Gwnaethpwyd y penderfyniad anodd gan Gr诺p Rheoli Aur Cyngor Sir Ceredigion oherwydd bod canolfannau hamdden a chyfleusterau cysylltiedig yn lleoliadau risg uchel o ran trosglwyddo'r feirws", meddai'r e-bost.

"Mae'r risg o drosglwyddo'r feirws yn uchel. Am y rheswm hwnnw, cymerwyd camau yn awr i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid, ein staff, a'r gymuned ehangach."

Byddan nhw hefyd yn cau caeau chwarae, caeau chwarae ysgolion a chaeau pob tywydd.