'Dewis toriad Cesaraidd oherwydd rheolau Covid-19'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai menywod beichiog yn dewis cael toriad Cesaraidd (Caesarean) er mwyn sicrhau bod eu partneriaid yn gallu bod yn bresennol i'r enedigaeth.
Yn 么l rheolau coronafeirws Cymru, dim ond yn ystod esgor "actif" y gall partner geni ddal i fod yn bresennol.
Ond mae rhai darpar mamau yn dweud y gall natur anrhagweladwy esgor olygu nad yw partneriaid yn cyrraedd yr ysbyty mewn pryd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod modd ystyried amgylchiadau unigol.
Ym mis Gorffennaf, cafodd rheolau yn atal menywod rhag gael cwmni i fynd i apwyntiadau a sganiau eu lleddfu, ond doedd y newid ddim yn cynnwys achosion o esgor yn gynnar.
Ond mae pobl yn ymgyrchu'n erbyn y penderfyniad i beidio ymestyn hyn a chaniat谩u partneriaid i gael bod yn bresennol yng nghyfnod cychwynnol yr enedigaeth.
Rhoddodd Michelle Morgan Davies, o'r Fenni, enedigaeth i Finn Morgan trwy doriad Cesaraidd ddydd Mawrth, gyda thad y plentyn, Darren wrth ei hochr.
Dywedodd Ms Morgan Davies ei bod wedi cael gofal "di-fai" yn yr ysbyty, a bod staff rheng flaen yn gwneud eu gorau i gefnogi menywod mewn amgylchiadau anodd, ond mae yna broblem gyda'r cyfyngiadau eu hunain.
"Mae llawer o dadau a phartneriaid yn cysgu'n eu ceir ac yn aros am ddyddiau ar dir yr ysbyty, yn ofnus y byddan nhw'n colli'r enedigaeth os ydyn nhw'n teithio adref i gael eu galw'n 么l yn rhy hwyr," meddai.
"Mae'r tafarndai'n llawn, mae'r plant yn yr ysgol mewn swigod o 30, gallai athrawes feichiog fod yn agored i'r holl aelwydydd hynny ond ni all gael ei phartner yn yr ysbyty ar gyfer llafur cynnar."
Beth ydy esgor 'actif'?
Gall camau esgor cynnar bara am ddyddiau, ac fel rheol mae menywod yn cael eu hannog i aros adref cyhyd ag y bo modd.
Pan fydd merch mewn esgor actif, mae'r cyfangiadau (contractions) fel arfer yn rheolaidd ac yn gryf, ac mae ceg y groth yn ymledu o leiaf 4cm.
Mae'r cam hwn fel arfer yn para ychydig oriau ond fe all fod yn anrhagweladwy, cyn lleied hyd yn oed ag ychydig funudau cyn i fenyw brofi'r ysfa i wthio. Mae hynny'n golygu bod rhai menywod yn poeni y gallen nhw gael y babi heb i'w partner geni na thad y plentyn fod yn bresennol.
Mae toriad Cesaraidd, sy'n llawdriniaeth fawr, yn cynnwys risgiau gan gynnwys heintiau, gwaedu gormodol, ceuladau gwaed neu ddifrod i'r bledren. Gall adferiad gymryd sawl wythnos.
Mae ymgyrch i leddfu cyfyngiadau esgor - - yn cael ei chefnogi gan AS Plaid Cymru Bethan Sayed, a roddodd enedigaeth yn ystod y cyfnod clo.
"Rwy'n deall o lygad y ffynnon pa mor frawychus ac unig y gall fod i fod heb eich partner geni mewn llafur cynnar ac adferiad," meddai.
"Mae partneriaid yn chwarae rhan hanfodol fel eiriolwyr yn ystod y broses eni, yn ogystal 芒 darparu cefnogaeth emosiynol.
"Mae gormod o dadau hefyd wedi colli allan ar eiliadau bondio cynnar 芒'u plant, a rhaid i ni weithredu nawr i osgoi unrhyw effaith niweidiol bellach ar deuluoedd newydd ledled Cymru."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae diogelwch a lles mamau a babanod, yn ogystal 芒'r staff sy'n eu cefnogi, wrth wraidd y canllawiau ymweld 芒 mamolaeth ar yr adeg hon.
"Gall partner fod yn bresennol pan fydd merch yn esgor yn weithredol.
"Bydd byrddau iechyd yn ystyried amgylchiadau unigol i alluogi partner neu berson enwebedig i fod yn bresennol pan fydd merch yn defnyddio gwasanaethau mamolaeth os oes ganddi anghenion iechyd meddwl, anabledd dysgu neu nam gwybyddol neu os oes angen cymorth ychwanegol arni i brosesu gwybodaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2020