91热爆

Ymddygiad pennaeth Ysgol Friars 'yn annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Neil Foden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Neil Foden yn gwadu'r holl honiadau yn ei erbyn

Mae panel disgyblu wedi ceryddu pennaeth ysgol uwchradd yng Ngwynedd ar 么l dyfarnu ei fod yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol trwy "neilltuo" a disgyblu athro.

Daeth y Cyngor Gweithlu Addysg i'r casgliad fod Neil Foden - pennaeth Ysgol Friars, Bangor - wedi trin yr athro'n annheg trwy ei feio'n gyfan gwbl am fod taith ysgol yn 2014 i Glwb P锚l-droed Fulham wedi cael ei chanslo.

Ond fe ddyfarnodd y panel nad oedd modd profi pedwar honiad pellach.

Bydd y cerydd yn parhau ar record Mr Foden am ddwy flynedd. Dywedodd ei gynrychiolydd yn y gwrandawiad fod ei gleient yn "siomedig" ond yn parchu'r dyfarniad.

Diffyg ymchwiliad 'annibynnol a chytbwys'

Dywedodd cadeirydd y panel, Sue Davies: "Roedd Mr Foden yn bennaeth profiadol a ddylai fod wedi cydnabod yr angen am ymchwiliad annibynnol a chytbwys" cyn dechrau camau disgyblu.

Penderfynodd y panel fod Mr Foden hefyd wedi trin athro arall yn annheg wrth roi geirda yn 2016, ond doedd yr hyn ddigwyddodd yn yr achos hwnnw ddim yn gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol.

Dywedodd cyfreithiwr Mr Foden, Jonathan Storey, fod y camymddygiad "yn ddifalais", "yn gyfyng" ac yn achos "prin".

Roedd Mr Foden, meddai, yn derbyn y gallai fod wedi gwneud sawl camgymeriad yn ystod ei yrfa ond y dylid ystyried "yr unig" ddyfarniad yn ei erbyn yng nghyd-destun ei gyfraniad i lwyddiant Ysgol Friars ac i addysg yng Nghymru.

Roedd ei gleient ag enw da dilychwyn dros y 24 mlynedd y bu'n bennaeth ar Ysgol Friars.

"Bydd [y dyfarniad] yn niweidio'i enw da a'i fri uchel yn broffesiynol hyd yn hyn," meddai.

"Mae'n derbyn eich cerydd y dylai fod wedi gwybod yn well."

Dywedodd cadeirydd y panel eu bod wedi cymryd i ystyriaeth gyfraniad Mr Foden i addysg yng Nghymru dros y blynyddoedd, ond bod ei ymddygiad "wedi bod yn annerbyniol a ni ddylai ddigwydd eto".

Undeb yn "siomedig"

Cafodd yr athrawon oedd wedi gwneud yr honiadau yn erbyn Mr Foden eu cynrychioli gan yr undeb NASUWT.

Dywedodd swyddog rhanbarthol yr undeb, Colin Adkins, wedi'r gwrandawiad: "Rwy'n siomedig na weithredodd y Cyngor Gweithlu Addysg ymhellach gyda'r honiadau mwy difrifol yn erbyn Mr Foden.

"Fodd bynnag, mae hyn yn danfon neges bwysig i bob uwch arweinydd bod rhaid iddyn nhw lynu wrth yr un safonau a'r rhai maen nhw'n eu rheoli."