Covid-19: Tair marwolaeth a 168 o achosion newydd
- Cyhoeddwyd
Mae yna dair yn rhagor o farwolaethau wedi eu cofrestru yng Nghymru yn gysylltiedig 芒 coronafeirws - dyma'r marwolaethau cyntaf i'w nodi yng Nghymru ers dros bythefnos.
Hefyd mae 168 wedi profi'n bositif i'r haint - gan olygu fod cyfanswm yr achosion positif yng Nghymru wedi codi dros 20,000.
Roedd 34 o'r achosion newydd yng Nghaerffili a 32 yn Rhondda Cynon Taf.
Yn 么l ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, cyfanswm y marwolaethau yw 1,600 gyda 20,048 wedi profi'n bositif hyd yma.
Nifer y bobl sydd wedi derbyn prawf yng Nghymru yw 433,962, gyda 413,914 wedi profi'n negyddol.
Fe gafodd 9,797 o brofion eu cynnal ddydd Mawrth.
Ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae'r rhan fwyaf o ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwneud 芒 marwolaethau yn yr ysbyty.
Dyw nhw ond yn cynnwys achosion lle mae'r haint wedi ei gadarnhau gan brawf labordy.
Nid ydynt yn cynnwys marwolaethau pobl o Bowys sydd wedi marw mewn ysbytai yn Lloegr.
Ond mae'r marwolaethau hyn yn cael eu cynnwys yn ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Yn 么l ffigyrau wythnosol diweddara'r ONS roedd yna bedair o farwolaethau yn gysylltiedig 芒 covid yng Nghymru yn yr wythnos hyd 4 Medi.
Golygai hynny gyfanswm o 2,569 o farwolaethau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2020
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020