'Cyfyngiadau yn her i fodolaeth corau meibion'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o gorau meibion Cymru yn poeni na fyddan nhw fyth yn canu eto oherwydd coronafeirws.
Yn 么l y sefydliad sy'n cynrychioli mwy na 90 o gorau meibion, mae'r rheolau cadw pellter cymdeithasol ac ofnau am ddiogelwch yn fygythiad i fodolaeth rhai ohonyn nhw.
Mae C么r Cendl (Beaufort) wedi dechrau ymarfer yn yr eisteddle yng nghlwb rygbi Glyn Ebwy er mwyn sicrhau y gall aelodau barhau i ganu mewn lleoliad diogel.
Ond yn 么l ysgrifennydd y c么r, mae angen llacio cyfyngiadau er mwyn caniat谩u ymarferion diogel y tu mewn.
Ers cyhoeddi'r cyfnod clo ym mis Mawrth, mae ymarferion a chyngherddau wedi'u canslo.
Mae wedi arwain at golli incwm, ac hefyd colli'r agwedd gymdeithasol sy'n dod o gynnal ymarferion a theithiau wythnosol.
Dywedodd Chris Evans, ysgrifennydd C么r Beaufort yng Nglyn Ebwy, fod y pandemig wedi codi cwestiynau difrifol ynghylch dyfodol rhai corau.
"Mae'n ddifrifol i rai. Mae aelodau yn eithaf hen fel arfer, felly mae'n golygu na fydd rhai aelodau am ganu eto - ac os ydy c么r yn g么r bach a bod 50% ddim am ganu eto, mae parhad y c么r yn her.
"A peth arall yw llefydd ymarfer," meddai Mr Evans, sydd hefyd yn ysgrifennydd Cymdeithas Corau Meibion Cymru.
"Mae nifer yn ymarfer mewn neuaddau pentref neu ysgolion.
"Dwi'n gwybod am ddau neu dri ch么r yn y gorllewin lle maen nhw wedi cael gwybod nad ydyn nhw'n cael parhau i ddefnyddio eu llefydd ymarfer presennol."
Mae C么r Cendl wedi dechrau ymarfer yn y seddi yng nghlwb rygbi Glyn Ebwy, gan sicrhau bod pellter cymdeithasol diogel yn cael ei gynnal bob amser, a gyda 30 neu lai o aelodau yn bresennol.
Yn ystod y cyfnod clo, nid oedd y c么r wedi gallu ymarfer gyda'i gilydd o gwbl.
Ond roedd aelodau wedi ymarfer gartref trwy ddilyn fideos oedd wedi'u recordio gan gyfarwyddwr cerdd y c么r.
Dywedodd Mr Evans fod yr ymarferion yn y clwb rygbi wedi bod yn aduniad emosiynol.
"Y g芒n gyntaf iddyn nhw ganu wythnos diwethaf oedd Gwahoddiad. O'n i ddim yn canu ar y pryd, o'n i'n gyfrifol am rannu mygydau.
"A do, fe ddaeth deigryn i'm llygad - dagrau'n llifo - roedd e'n briliant, fe wnaethon nhw ganu'n dda."
Gwnaeth Cymdeithas Corau Meibion Cymru arolwg am effaith y pandemig ar eu gweithgareddau.
Yn 么l yr adroddiad, roedd bron pob gweithgaredd wedi dod i ben ym mis Mawrth, tra bod dau gyngerdd mawr o gorau yn Llundain a Chaerdydd wedi'u gohirio.
Cafodd dros 450 o gyngherddau corau unigol eu canslo;
Cafodd 43 o deithiau c么r ledled y DU ac Ewrop eu canslo hefyd.
Mae'r newidiadau wedi cael effaith ariannol ar rai corau, gydag amcangyfrif fod cyfanswm colled pob c么r bron i 拢140,000.
Y golled fwyaf a effeithiodd ar un c么r oedd 拢15,000.
Mae Aelod o'r Senedd Blaenau Gwent, Alun Davies, wedi galw am newid rheolau ar gyfer ymarferion a fyddai'n galluogi sesiynau ymarfer dan do diogel dros y gaeaf.
Wrth gyfeirio at eu lleoliad ymarfer presennol yn y clwb rygbi dywedodd: "'De ni ddim yn gallu gwneud hyn ym mis Tachwedd, 'de ni'n gwybod hynny, so be 'de ni mo'yn gweld ydi rheolau sy'n cydnabod pwysigrwydd normalrwydd yn ystod yr argyfwng yma.
"Rheolau sy'n galluogi ni i gynnal rhyw fath o normalrwydd a fel bod ni yn cadw yn staff."
Er gwaethaf pryderon am ddyfodol rhai corau, dywedodd y Gymdeithas fod 50% o gorau wedi dechrau trefnu cyngherddau ar gyfer 2021.
Yn y cyfamser mae ymdrechion yn parhau i gadw mewn cysylltiad ag aelodau ac annog ymarferion dros y we.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2020