Rhybudd cyfyngiadau wedi achosion Covid-19 Drefach
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorau, awdurdodau iechyd a'r heddlu yn y de orllewin wedi rhybuddio pobl i barhau i gadw pellter cymdeithasol, neu orfod wynebu cyfyngiadau Covid-19 yn lleol.
Mae arweinwyr y cynghorau lleol - Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion - yn "annog pawb i chwarae eu rhan i gadw eu siroedd a'u cymunedau'n ddiogel".
Daw yn dilyn achos yn Sir Gaerfyrddin pan gafodd 14 o bobl eu heintio gyda Covid-19 ar 么l noson wobrwyo yng Nghlwb Criced a Ph锚l-droed Drefach ddiwedd Awst.
Yn 么l arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Emlyn Dole, roedd rhwng 60 ac 80 o bobl yn y digwyddiad, ac mae tua 100 o bobl bellach yn hunan-ynysu yn dilyn yr achos o heintio cymunedol.
Mae arweinwyr y cynghorau wedi rhybuddio bod angen dilyn rheolau i osgoi cyfnod clo lleol fel sydd yn Sir Caerffili.
Mewn datganiad ar y cyd ddydd Mercher, dywedodd y Cynghorydd Dole, y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, a'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion:
"Y peth olaf rydym eisiau ei wneud yw bod o dan gyfyngiadau symud lleol, fel sydd eisoes wedi digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru.
"Ond, os bydd y bygythiad yn cynyddu a'r diffyg cadw pellter cymdeithasol yn parhau, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni gymryd y camau angenrheidiol."
Ychwanegodd y datganiad bod y pandemig "ymhell o ddod i ben" a bod "angen i bobl barchu'r mesurau sydd ar waith ar waith a chymryd cyfrifoldeb personol dros gadw pellter cymdeithasol a hylendid da".
"Helpwch i gadw cymunedau Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn ddiogel - mae'n rhaid i ni gyd chwarae ein rhaid i amddiffyn ein hunain a'n gilydd."
'Parhau'n salwch difrifol iawn'
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, nod gorllewin Cymru "wedi bod yn ffodus iawn" gyda "chyfraddau heintio cymharol isel o Covid-19".
"Roedd hyn o ganlyniad i ymdrechion arbennig y cyhoedd i ddilyn canllawiau diogelwch a oedd yn atal y clefyd hwn rhag lledaenu.
"Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu ac mae'n parhau i fod yn salwch difrifol iawn, yn enwedig i'r henoed a'r rhai sydd 芒 chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes."
Anogodd y cyhoedd i barhau i ddilyn y cyngor iechyd o gadw pellter cymdeithasol, lleihau cyswllt ag eraill a golchi dwylo'n rheolaidd.
Ychwanegodd: "Mae cynnal yr arferion hyn yn gwbl hanfodol er mwyn lleihau effaith a lledaeniad y pandemig. Mae'r cyhoedd hefyd yn bartner hollbwysig yn y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.
"Dim ond gyda'ch cefnogaeth a'ch parodrwydd chi i roi gwybod am symptomau, nodi cysylltiadau a dilyn cyngor am hunan ynysu y gallwn nodi a mynd i'r afael ag unrhyw achosion newydd a diogelu ein gilydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020