91热爆

Gwynedd: Ymchwilio i gwynion cadw pellter mewn tafarn

  • Cyhoeddwyd
Tafarn Neuadd y FarchnadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y cwynion yn ymwneud 芒 thafarn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymchwiliad i gwynion bod rheolau cadw pellter wedi cael eu torri mewn tafarn yng Nghaernarfon.

Daeth y cwynion yn dilyn penwythnos G诺yl y Banc.

Roedd fideo yn dangos grwpiau o bobl yn cymysgu o fewn y dafarn wedi ei rannu ar wefannau cymdeithasol.

Roedd neges ar dudalen Facebook y dafarn dros y penwythnos yn dweud yn glir: "Atgoffwn ein cwsmeriaid i gadw at y canllawiau 'Covid' tra yn yr adeilad. Diolch."

Ond dywedodd y cyngor bod "cwynion nad oedd rheolau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn".

Nid yw鈥檙 post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Market Hall

Caniat谩u cynnwys Facebook?

Mae鈥檙 erthygl yma鈥檔 cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Market Hall

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd yn cynnal ymchwiliad, a bod y "gwaith hwn yn parhau".

Mewn datganiad dywedodd: "Wrth i adeiladau trwyddedig ailagor yn llawn rydym wedi bod yn cynnal ymweliadau ar y cyd 芒 Heddlu Gogledd Cymru i wneud yn siwr fod deiliaid trwydded yn cadw at amodau eu trwydded a deddf Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru).

"Fel cyngor rydym yn gwerthfawrogi fod hwn yn amser ansicr i fusnesau ac mae ein swyddogion wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad.

"Mae'n bwysig cofio hefyd fod busnesau'n chwarae r么l hanfodol wrth helpu i rwystro lledaeniad coronafeirws a chadw ein cymunedau'n ddiogel.

"Rydym yn parhau i gynnal ymweliadau ar y cyd 芒 Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau fod tai trwyddedig yn dilyn rheolau Coronafeirws yn llawn.

"Bydd rhai sy'n anwybyddu'r rheoliadau yn wynebu camau pellach, sy'n cynnwys yr hawl i gau t欧 trwyddedig."

'Digon o ofod'

Dywedodd y perchennog Geoff Harvey ei fod yn cydweithio 芒'r cyngor, ac wedi rhannu lluniau CCTV sy'n dangos bod lle yn y dafarn dros y penwythnos.

Roedd wedi cael cyfarfod gyda'r cyngor cyn G诺yl y Banc i drafod eu cynlluniau ac i gael arweiniad, ac roedd wedi cyflogi staff ychwanegol ar gyfer penwythnos prysur, meddai.

"Cyn y pandemig roedd gan y lleoliad gapasiti o 600 ar y llawr gwaelod a 300 ar y lefel uwch," meddai.

"Ar 么l cyfarfod yr awdurdodau perthnasol mi wnaethon ni gytuno i gael lle eistedd ar gyfer 250 er mwyn cydymffurfio 芒'r canllawiau cadw pellter.

"Mae lluniau CCTV yn dangos yn glir bod digon o ofod o gwmpas y grwpiau oedd yn eistedd yn y neuadd fawr.

"Mae cwsmeriaid yn codi i fynd i'r bar neu i'r t欧 bach ac mae hyn yn sialens i unrhyw leoliad mawr gan fod pobl yn tueddu i lenwi bylchau 2 fetr wrth geisio pasio'i gilydd.

"Mi fyddai'n help mawr i leoliadau ddod dros y sialens yma pe bai'r canllawiau'n galw am fwlch o 1.5 metr."

Pwysleisiodd y dylai cwsmeriaid chwarae rhan trwy wneud yn siwr eu bod yn dilyn y rheolau.