91热爆

Pryder am 'ddadwneud datganoli' drwy reolau Brexit

  • Cyhoeddwyd
Cymru a San Steffan

Mae Gweinidog Pontio Ewropeaidd Cymru eisiau "eglurder ar frys" gan Lywodraeth y DU na fydd yn rhoi'r p诺er iddo'i hun i wario ar faterion datganoledig ar 么l Brexit.

Yn 么l Jeremy Miles, pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud hynny, y byddai'n "dadwneud datganoli".

Dywedodd ei fod wedi codi'r mater gyda Michael Gove mewn cyfarfod ddydd Iau, ond na chafodd y sicrwydd roedd ei eisiau.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb i bryderon Mr Miles.

Deddfwriaeth ddrafft

Mae disgwyl i ddeddfwriaeth ddrafft ar sut y bydd marchnad fewnol y DU yn gweithio ar 么l Brexit i gael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf.

Yn ogystal 芒 chanolbwyntio ar reolau a safonau masnachu, yn 么l cynigion gafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf bydd y ddeddfwriaeth yn edrych ar sut mae Llywodraeth y DU yn gwario arian ym mhedair gwlad y DU.

Dywedodd y cynnig: "Bydd y llywodraeth yn ystyried pa bwerau gwariant y mae angen i hybu marchnad fewnol y DU, helpu pobl a busnesau ym mhob cenedl i gymryd mantais ohono, a chyflawni'r nod o roi hwb i bob rhan o'r DU.

"Gan ddefnyddio unrhyw bwerau newydd, bydd y llywodraeth yn darparu nawdd yn deg ar draws y cenhedloedd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jeremy Miles na chafodd y sicrwydd roedd ei eisiau gan Michael Gove

Dywedodd Mr Miles wrth 91热爆 Cymru ei fod wedi gofyn am "sicrwydd" gan Mr Gove na fydd Llywodraeth y DU yn "ceisio cymryd y pwerau gwariant sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd".

"Byddai hynny'n dadwneud y setliad datganoli o ran gwariant, a ni chefais y sicrwydd hynny," meddai.

"Felly ry'n ni'n disgwyl i weld beth fydd yn y mesur yr wythnos nesaf. Fe fyddai wedi bod yn syml iawn i roi'r sicrwydd hynny heddiw, ond nid dyna'r achos.

"Byddai hynny yn dadwneud y datganoli mae pobl yng Nghymru wedi pleidleisio amdano ar sawl achlysur."