Oedi gyda chanlyniadau profion Covid-19
- Cyhoeddwyd
Pentyrru gwaith mewn 'labordai goleudy' yw'r rheswm fod cannoedd o brofion coronafeirws yn cymryd amser hir i ddod yn 么l.
Cafodd labordy goleudy ei sefydlu yng Nghasnewydd yn ddiweddar, ac mae pedair arall yn y DU, yn Milton Keynes, Alderley Park (Sir Gaer), Caergrawnt, a Glasgow. Nid yw'r rhain yn rhan o'r GIG Cymru.
Yng Nghymru, dim ond 48.8% brofion cartref ddaeth yn 么l o labordai goleudy o fewn tri diwrnod.
Yn 么l ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, ar gyfer yr wythnos hyd at 31 Awst, dim ond 8.3% allan o dros 2,700 o ganlyniadau ddaeth yn 么l o fewn un diwrnod gwaith - a llai na 25% o fewn 48 awr.
Roedd hyn yn ostyngiad sylweddol ers diwedd Gorffennaf, pan ddaeth bron i 92% o ganlyniadau yn 么l o'r labordy o fewn tri diwrnod.
Yn ei fwletin diweddaraf ar brofion Covid-19 dywedodd Llywodraeth Cymru: "Cafodd y gostyngiad o 27 Gorffennaf ymlaen yn yr amseroedd dychwelyd ar gyfer profion cartref a phrofion drwy'r porth sefydliadau y tu allan i GIG Cymru ei achosi wrth i'r galw am sgrinio... drwy'r DU fynd yn uwch, dros dro, na chyfanswm capasiti'r labordai goleudy.
"Arweiniodd hyn at 么l-groniad dros dro yn y labordai, ac effeithiodd hynny yn ei dro ar amseroedd prosesu'r profion drwy'r sianeli hyn."
Roedd ffigyrau eraill ar gyfer yr wythnos hyd at 31 Awst yn dangos fod canlyniadau 91% o brofion a nodwyd fel rhai brys, wedi dod yn 么l o fewn diwrnod yma yng Nghymru, ac roedd bron i 70% o brofion cymunedol a thorfol wedi dod yn 么l o fewn 24 awr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020