Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Y cyflwynydd Lois Cernyw
Y cyflwynydd Lois Cernyw sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Dafydd Rhys Evans yr wythnos diwethaf.
Mae Lois yn wyneb cyfarwydd i lawer, fel un o gyn-gyflwynwyr Stwnsh, y rhaglen i blant ar S4C.
Ond mae ei llais hi hefyd yn gyfarwydd iawn - yn enwedig i drigolion gogledd Cymru - gan ei bod hi'n un o gyflwynwyr yr orsaf radio Heart bob prynhawn.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Erbyn hyn dwi ddim yn si诺r beth sydd yn atgof neu os dwi wedi clywed y stori lot o weithia gan Nain Sir F么n a mae wedi troi mewn i atgof. Ond dwi'n si诺r bod fi'n cofio cerdded at boster o eirth bach yn cal picnic yn fy nghartref cyntaf yn Penrhos Garnedd, Bangor.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Doedd gennai ddim lot o crushes pan o'n i'n iau. Dwi'n cofio Emma yn ysgol gynradd yn caru Take That ac o'n i'n meddwl bod hi'n weird! Ond o'n i'n rili ffansio bachgen o'r enw Barri rhyw dro a nes i gal keyring si芒p calon o stondin Cadwyn yn y Steddfod yn deud 'Lois 4 Barri' arno fo!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dipyn o flynyddoedd yn 么l o'n i'n cerdded yng Nghaernarfon r么l bod yn cael cinio hefo ffrind ac oedd 'na lwyth o bobl yn neud wolf whistles arna fi. O'n i'n meddwl "ma' hyn yn sioc i'r system, ma' rhaid bod fi wedi neud wbath yn wahanol heddiw i gal yr holl sylw 'ma".
Pan nes i gyrraedd n么l i'r gwaith, nes i sylwi mod i wedi plygu fy sgert i mewn i fy nicyrs ac oedd pawb yn medru gweld fy mhen 么l.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
'Da ni'n gwylio This is Us ar y funud a ma'n 'neud i mi grio a chwerthin.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gormod i restru.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Wern Bach yn Llangernyw - cartref y teulu.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gafon ni chwip o noson pan yn sg茂o dros y Nadolig. Lot fawr o ganu, yfed 闯盲驳别谤产辞尘产蝉 a dawnsio yn ein dillad sg茂o.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n twitcher! Caru sbio ar yr adar yn yr ardd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol, hapus, creadigol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
The Notebook - caru y ffilm, wedi ei gwylio gannoedd o weithia erbyn hyn. A ma' Ryan Gosling yn hot!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gwario amser hefo fy nheulu a sg茂o.
O archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff g芒n?
Mil Harddach Wyt, Plethyn. Ma' hon yn ychwanegiad newydd achos pan o'n i'n canu hi i Iago, fy mab, oedd o'n mynd i gysgu a dydi cwsg ddim yn beth dwi'n ei gael yn aml dyddia' yma.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Mam - mi fyswn i wrth fy modd yn cal cyfle i ddeud wrthi am yr holl betha' sydd wedi digwydd dros y deng mlynedd dwytha'.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Mozzarella, olew olewydd a basil. Cinio dydd Sul. Eton Mess.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Beyonc茅. Mi fysa Robin wrth ei fodd taswn i'n Beyonc茅 am y diwrnod!
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Anni Ll欧n