91Èȱ¬

Ateb y Galw: Lisa Angharad

  • Cyhoeddwyd
Lisa Angharad

Yr wythnos yma y cyflwynydd, cantores a pherfformwraig Lisa Angharad sy'n Ateb y Galw gan Cymru Fyw, wedi iddi gael ei henwebu gan Mari Lovgreen yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Does dim cliw 'da fi beth fi'n cofio a beth fi 'di gweld ar fideo. Yw 'na'n normal? Fi hefyd yn cymhlethu beth fi'n cofio gyda'r anecdotes ma' mam 'di ddweud wrtha i. Falle taw un ohonyn nhw yw chware Mair yng nghyngerdd Nadolig yr ysgol Sul a diflasu hanner ffordd trwy stori'r geni a dechre ysgwyd Iesu Grist o amgylch fel bo fe'n sparcler!

Neu falle pan nes i ddweud wrth Gwenno fy chwaer - "Gwenno nei di stopio ddilyn fi, pwy ti meddwl ydw i - IESU GRIST?"…

Disgrifiad o’r llun,

"Mae hi'n fwy diogel yn fan hyn 'na yn nhÅ·'r Lisa Angharad 'na!"

Neu pan nath mochyn cwta ni Dici Snwff farw. O'dd mam yn ofnadwy o ypset ac ofn dweud wrtha i ond sai'n credu bo' fi'n deall ystyr 'marw' ar y pryd a nes i sgipio rownd yr ardd yn canu "ma' Dici Snwff wedi marw", wrth fy modd am y peth!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Fi newydd ofyn y cwestiwn 'ma i un o'r merched fi'n byw 'da a nath hi drio helpu fi drwy holi - "What posters did you have on your wall?"…. yym un poster 'da ceffyl a'r llall â mochyn. "OK, which male film stars did you watch a lot?"…. yym Sion Blewyn Coch? Probleme merch y wlad.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ma rhaid fi weud, ma' lot o bethe embarrassing yn dueddol o ddigwydd i fi, rhan fwya ohonyn nhw yn glyweliade. Na'i ddewis yr un fwya cywilyddus o'r 12 mis dwetha'. Clyweliad o flaen merch o'n i'n nabod o Gymru a 4 person arall lle odd rhaid i fi ganu/chware sax/chware clarinet a chware piano.

O'n i'n hwyr felly gyrhaeddes i'n chwys drabwd. Es i at y piano i gael run through cwpl o'r bars cyn canu a na'th y pianydd chware'r gân gyfan, felly o'n i'n joio fy hunan yn wynebu'r wal gefn ac yn sortio teits fi mâs ac arbrofi braidd 'da'r riffs.

Es i wedyn i sefyll ar y llwyfan i ganu at y panel a netho nhw ofyn i fi chware clarinet yn syth. A'th y clyweliad yn 'i flaen a dath hi at y bit saxophone, nes i godi'r offeryn a dath dim un nodyn mas.

Dries i eto 5-6 gwaith cyn i'r panel weud "I think you can stop now, thank you very much, we'll be in touch." "Oh, Would you like to hear me sing?" a wedyn wedodd y ddynes o'n i'n nabod "Oh gosh! You thought that was a rehearsal - Is that why you were facing the wall?!" gries i'r holl ffordd adre ar y tiwb. Cŵl.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Lisa yn cyflwyno 'Ddoe am ddeg' ar S4C

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Nes i grio tra'n gwylio fideo ar Facebook o gŵn beagle yn cal gweld awyr iach a glaswellt am y tro cynta erioed gan bo' nhw 'di treulio'u hoes mewn ffactori. O'n i'n mess.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta gormod o fenyn! Pigo gwinedd shellac i ffwrdd. Gad'el popeth tan y funud ola', ma' pob trên a bws yn cal i ddal o drwch blewyn bat. Dweud innuendos rhywiol pan fi'n nerfys (fi'n beio Mam am yr habit anffodus 'ma).

Dy hoff ddinas yn y byd?

Does neb 'di gofyn 'na i fi o'r blaen! Fi'n mwynhau Llunden yn ofnadwy ar hyn o bryd, a bydd Caerdydd wastad yn ffefryn, ond nes i syrthio mewn cariad â Amsterdam pan es i 'na llynedd. Yn rhyfedd, o'n i'n disgwyl cwmpo mewn cariad ag Efrog Newydd pan es i 'na gyda coleg, ond yn anffodus nes i ffindo fe tam' bach yn oeraidd a'r bobl yn ddi-wên.

O ran America, odd lot yn well 'da fi Washington, ond falle bo' 'na oherwydd bo' fi 'di bod 'na 'da dynion gwyllt .

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Sori Lisa, ti'n rhy hwyr tro 'ma ... ti wedi trio beic?"

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fi'n credu taw hoff noson fi oedd noson cyn fy mhenblwydd y llynedd. Odd ffrindie o Lunden a Chaerdydd 'di dod i Maesmeurig i ddathlu mhenblwydd am y penwythnos ac odd mam 'di neud pryd o fwyd lyfli i ni gyd a netho ni dreulio trwy'r nos o amgylch bwrdd y gegin yn siarad, byta, yfed a chwerthin. Fi'n cofio edrych o'n amgylch a theimlo'n hollol overwhelmed 'da cariad a hapusrwydd.

Oes gen ti datŵ?

Nagoes wir! Fi'n casau nhw. Hyll.

Beth yw dy hoff lyfr?

Does dim ateb 'da fi i'r cwestiwn 'ma. Fi'n darllen yn yffarn o gyflym a fi'n dueddol o anghofio pob llyfr wrth i fi roi e lawr. Ar hyn o bryd fi'n darllen llyfre Jo Nesbo sy'n beth da oherwydd ma' rhaid i fi ddarllen yn arafach a chanolbwyntio neu does dim clem 'da fi be' sy'n mynd mlan!

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Siwmper Celt prynes i pan o'n i'n tua 14. Ma' fe mor dene a meddal nawr, ma' fe'n lysh. Siwmper sy'n addas ar gyfer pob mood swing. Ma' rhaid i fi adel e adre yng Nghymru neu bydden i'n gwisgo fe bob dydd yn Llunden a sai'n credu bydde na'n beth da i'r hen career.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Into the Woods'. Nes i joio'r hanner cynta ffwl pelt, ond wedi i'r cawr ddod mla'n yn yr ail hanner, nes i golli diddordeb a dechre byta'n sweets.

Disgrifiad o’r llun,

"Well i 'ni frysio 'da'r olygfa yma, mae Lisa ar baced newydd o 'pick 'n mix'."

Dy hoff albwm?

First Aid Kit - 'The Lion's Roar', Nanci Griffith - 'The MCA Years', Celine Dion - 'A Decade of Song'.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Cwrs cyntaf! Fi wastad moyn o leia' 3 o'r rhestr cwrs cyntaf, 2 o'r prif gwrs ac anaml iawn fi'n lico'r pwdins.

Fi'n credu bod y cwrs cyntaf yn ca'l lot fwy o sylw gan gogyddion dyddie 'ma, a fi'n teimlo bod y pwdins yn cal prin dim. Yr un hen bwdins sydd ar bob rhestr dim ots pa mor 'waethus yw'r bwyty.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Fi'n casau ffonio. Neith pawb sy'n nabod fi weud wrtho chi bo' fi'n gwrthod codi'r ffôn. Dyma'r unig amser na'i ateb: Mam yn ffonio, ffrind fi'n drist, galwad gan housemate fi'n gwbod sy' mynd i fod o dan 20 eiliad, rhif sy'n edrych fel rhif tramor (falle bo' Broadway'n galw?!)

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Yn bendant Jac Russell bach pert ni Snwff.

Bydden i wrth 'y modd yn gweld be' ma' fe'n meddwl pan ma' fe'n edrych arno fi, a be' ma' fe'n meddwl pan ma' pawb yn mwytho fe ac yn siarad 'da fe mewn llais ridicilys. Licen i deimlo'r cyffro ma' fe'n deimlo pan ma' fe'n gweld cwningen neu'r casineb pan ma' fe'n gweld y postman.

Disgrifiad o’r llun,

"O na Jess, gwell i ni ddianc mae Lisa wedi troi'n Jac Russell bach ffyrnig!"

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Ifan Jones Evans