91热爆

Diffyg camau atal Covid mewn archfarchnadoedd y Rhondda

  • Cyhoeddwyd
archfarchnadFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd swyddogion iechyd amgylcheddol yn ymweld 芒'r holl archfarchnadoedd ar draws Rhondda Cynon Taf i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda'r mesurau priodol er mwyn atal lledaenu Covid-19.

Daw hyn yn sgil pryderon am y diffyg camau sydd yn eu lle i atal lledaenu'r feirws.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Andrew Morgan, nad oedd wedi cael profiad da yn ystod y pandemig mewn archfarchnadoedd a bod aelodau o'r cyhoedd hefyd wedi codi'r mater.

Ymhlith pryderon aelodau'r cyhoedd, meddai, oedd nifer y bobl mewn archfarchnadoedd, diffyg deunydd golchi dwylo a'r ffaith bod systemau un ffordd wedi eu hepgor.

Bydd swyddogion iechyd amgylcheddol yn gweithredu pan fydd hynny yn briodol meddai Mr Morgan.

Trafod a chynghorau eraill

Andrew Morgan yw arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a dywedodd ei fod yn bwriadu trafod y sefyllfa gyda chynghorau eraill hefyd.

Dywedodd ar Twitter ei fod yn "gynyddol bryderus" am y diffyg mesurau atal Covid mewn archfarchnadoedd a'i fod wedi ceisio eu hosgoi ac yn ffafrio "siopau llai yng nghanol trefi".

"Dyw fy mhrofiad o archfarchnadoedd ddim wedi bod yn dda ac mae'n cyd fynd gyda sylwadau rwyf wedi derbyn gan y cyhoedd."

Ychwanegodd ei fod "wedi gofyn yn ffurfiol" i swyddogion amgylcheddol iechyd y sir i ymweld 芒'r archfarchnadoedd ac i gymryd y camau priodol pan fo angen.