Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim marwolaethau coronafeirws newydd wedi eu cofnodi
Nid oedd unrhyw farwolaethau pellach yn gysylltiedig 芒 choronafeirws dros y 24 awr ddiwethaf, yn 么l ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyfanswm y bobl sydd wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru bellach ydy 1,595.
Cafodd 40 achos newydd o'r feirws eu cofnodi, sy'n golygu bod 17,917 o bobl bellach wedi profi'n bositif.
Cyfanswm y bobl sydd wedi cael eu profi yng Nghymru hyd yma yw 327,194, gyda 309,277 yn profi'n negyddol.
Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru'n bennaf yn cofnodi marwolaethau mewn ysbytai, a dim ond yn cynnwys achosion lle gafwyd cadarnhad o'r feirws mewn labordy ysbyty.
Nid yw'r ffigurau'n cynnwys marwolaethau trigolion o Bowys fu farw mewn ysbytai yn Lloegr, er bod y rhain wedi'u cynnwys yn ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiad SAGE
Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad sydd wedi dod i law rhaglen Newsnight y 91热爆.
Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan bwyllgor gwyddonol ymgynghorol SAGE ar gyfer Llywodraeth y DU.
Dywed yr adroddiad y gallai Covid-19 achosi 85,000 o farwolaethau ar hyd y DU y gaeaf hwn, o dan y "senario rhesymol gwaethaf posib."
Ychwanegodd awduron yr adroddiad mai "senario" oedd y data, ac "nid darogan" yr hyn oedd am ddigwydd, a bod "ansicrwydd sylweddol" angen ei ystyried wrth fesur y data.
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cynllunio'n ofalus ar gyfer yr hydref a'r gaeaf ac rydym yn gwybod bod y risg y bydd y feirws yn atgyfodi yn parhau i fod yn un gwirioneddol.
Rydym yn ystyried y senarios gwaethaf posib, sy'n rhan gyffredin o gynllunio. Mae nifer o fodelau penodol yn y DU a Chymru yn cael eu hystyried, a bydd eu canlyniadau'n cefnogi penderfyniadau polisi.
"Rydyn ni'n annog pawb i barhau i gymryd camau i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid - dilynwch reolau pellhau cymdeithasol a golchwch eich dwylo'n aml."