Cwarantin i deithwyr o dair gwlad arall

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn dilyn cyfarfod rhwng llywodraethau'r DU, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newid i'r gwledydd y mae'n rhaid hunan ynysu wrth ddychwelyd ohonyn nhw.

Bydd rhaid i unrhyw un sy'n cyrraedd Cymru o'r Swistir, Jamaica neu'r Weriniaeth Siec hunan ynysu am 14 diwrnod, a bydd y rheol yn dod i rym am 04:00 fore Sadwrn, 29 Awst.

Ar y llaw arall mae Ciwba a Singapore wedi cael eu tynnu o'r rhestr o wledydd gwaharddedig, felly ni fydd angen i bobl sy'n cyrraedd o'r ddwy wlad yna hunan ynysu.

Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu hadolygu'n gyson gan Lywodraeth Cymru ers i'r rhestr wreiddiol gael ei chreu ar 10 Gorffennaf.