91热爆

Cwarantin am 14 diwrnod ar 么l dychwelyd o Sbaen

  • Cyhoeddwyd
traethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl wedi dechrau heidio yn 么l i lefydd fel Palma de Mallorca, Spain

Bydd unrhyw un sy'n teithio o Sbaen yn 么l i'r DU - gan gynnwys i Gymru - yn gorfod mynd i gwarantin am 14 diwrnod o heddiw ymlaen.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU y cyhoeddiad ddydd Sadwrn yn dilyn cynnydd yn yr achosion o Covid-19 yn Sbaen.

Cafodd dros 900 o achosion positif o'r feirws eu cofnodi yno ddydd Gwener.

Daeth cadarnhad y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dilyn yr un trywydd.

Dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething nos Sadwrn: "Bydd yn ofynnol i unrhyw un sy'n cyrraedd y DU o Sbaen i fynd i cwarantin am 14 diwrnod o [ddydd Sul] yn dilyn ymchwydd mewn achosion coronafeirws yn y wlad.

"Rwy'n diwygio ein rheoliadau teithio rhyngwladol i rym o hanner nos [nos Sadwrn] oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd dan sylw.

"Bydd hyn yn lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws yma yng Nghymru."

Dywedodd Llywodraeth y DU fod iechyd y cyhoedd yn "flaenoriaeth lwyr".

"Rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad hwn i gyfyngu ar unrhyw ledaeniad posib i'r DU," meddai llefarydd.