91热爆

Prif weithredwr newydd i fwrdd iechyd y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi prif weithredwr newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Daw Jo Whitehead o Ogledd Cymru ac mae'n dechrau ar y gwaith ar 么l bod yn gweithio fel Prif Weithredwr Ysbytai ac Iechyd yn Queensland.

Dywed y llywodraeth bod y broses recriwtio wedi bod yn "gystadleuol" ond bod Ms Whitehead wedi dangos ei bod yn deall yr heriau iechyd a chymdeithasol sy'n bodoli yn yr ardal a'r ffordd i'w goresgyn.

Ers i'r bwrdd iechyd gael ei rhoi mewn mesurau arbennig yn 2015 mae sawl person wedi gwneud y r么l.

Gwnaeth y llywodraeth y penderfyniad i roi'r bwrdd iechyd o dan oruchwyliaeth ar 么l adroddiad damniol oedd yn nodi bod 'camdrin sefydliadol' wedi digwydd mewn ward iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd 17 gwely yn ward Tawel Fan

Ar 么l hynny gadawodd y prif weithredwr ar y pryd, yr Athro Trevor Purt ac fe gamodd Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i'r adwy dros dro.

Yna ar 么l cael ei benodi yn 2016 gadawodd Gary Doherty y bwrdd ym mis Chwefror eleni i wneud r么l arall yn Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Addysgu Sir Gaerhirfryn.

'Balch' o'r gwasanaeth

Dywedodd Jo Whitehead, sydd a 30 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes iechyd ei bod hi'n, "anrhydedd fawr i mi gael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a gwella canlyniadau iechyd ar draws ein cymunedau yng Ngogledd Cymru.

"Rwy'n benderfynol o helpu'r Bwrdd Iechyd i fodloni ei heriau a darparu gwasanaethau gofal iechyd y gall ein cymunedau a'n staff fod yn falch ohonynt."

Yn 么l cadeirydd y bwrdd iechyd, Mark Polin mae ganddi'r "arweinyddiaeth a'r profiad" sydd ei angen.

Bydd Jo Whitehead yn dechrau ar y gwaith ym mis Ionawr 2021 gyda Simon Dean, sydd wedi gwneud y r么l am yr ail waith fel interim, yn dychwelyd i'w waith blaenorol ym mis Medi.

Yn 么l y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething mae Simon Dean wedi, "darparu arweinyddiaeth gref yn ystod y saith mis diwethaf tra bo'r bwrdd iechyd wedi ymateb a gweithredu'n gyflym ac yn gadarn i COVID-19.

"Wrth i'r GIG gynllunio a pharatoi at heriau'r gaeaf, mae'n hollbwysig ei fod yn dychwelyd i'w r么l genedlaethol."

Am bedwar mis bydd Gill Harris, y Dirprwy Brif Weinidog a'r Cyfarwyddwr Nyrsio, yn cymryd drosodd fel Prif Weithredwr Dros Dro.

"Mae'r Cadeirydd a'r Bwrdd yn hyderus y bydd Gill Harris, gyda chymorth ei chydweithwyr, yn arwain y sefydliad yn dda yn ystod y pedwar mis nesaf ac yn rhoi cymorth strategol i'r Prif Weithredwr newydd yngl欧n 芒 chynlluniau a chyfeiriad y bwrdd at y dyfodol," meddai Vaughan Gething.

Cyfle olaf

Dywedodd Llyr Gruffydd, Aelod o Senedd Cymru ar gyfer gogledd Cymru bod y r么l yma yn un o'r rhai "mwyaf heriol ym mywyd cyhoeddus Cymru".

"Mae'r bwrdd iechyd wedi cael cyfres o brif weithredwyr dros y ddegawd ddiwethaf sydd wedi methu a delio gyda'r problemau sylfaenol sydd yn wynebu gofal iechyd yng ngogledd Cymru," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n "siomedig" ei bod hi wedi cymryd blwyddyn i benodi prif weithredwr newydd a'i fod yn gobeithio y bydd Jo Whitehead yn gallu cwrdd 芒'r her.

"Fodd bynnag mae hyn yn teimlo fel y cyfle olaf i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel endid," meddai.

Dywedodd os nad yw'r penodiad yma yn gweithio "bydd yn rhaid i ni edrych ar ailstrwythuro eang o wasanaethau iechyd yn y gogledd".