Covid-19: Cynghorau i dderbyn arian ychwanegol
- Cyhoeddwyd
Bydd dros 拢260m ar gael i awdurdodau lleol i'w helpu i gynllunio ar gyfer gweddill y flwyddyn, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae'n dod 芒 swm y gefnogaeth i gynghorau yn ystod y pandemig coronafeirws i bron i hanner biliwn o bunnoedd.
Y gobaith yw y bydd yn helpu i dalu costau uwch, i ddigolledu bylchau mewn incwm ac ariannu glanhau ychwanegol mewn ysgolion.
Daw fel rhan o baratoadau ar gyfer ail don posib o'r feirws.
Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu drwy broses hawlio.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: "Mae ein hawdurdodau lleol wedi ymateb yn ardderchog i heriau Covid-19, ond rydym yn cydnabod yr effaith ariannol y mae hyn wedi'i chael arnynt."
Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: "Mae cynghorau lleol wedi bod wrth wraidd ein hymateb i Covid-19.
"Mae'r pecyn newydd hwn o gymorth ariannol yn cydnabod graddfa'r heriau digynsail sy'n wynebu awdurdodau ledled Cymru ac yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i barhau i ymateb i'r argyfwng a pharatoi ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol."