Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pa mor hir mae'n gymryd i gael canlyniad prawf Covid?
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn dal i geisio gwella amseroedd dychwelyd canlyniadau prawf coronafeirws.
Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, dim ond canlyniadau 56% o brofion a broseswyd mewn labordai Cymreig yr wythnos diwethaf (18,000) a gafodd eu dychwelyd o fewn diwrnod.
Targed amser y llywodraeth ydy 24 awr ar gyfer pob canlyniad.
Roedd mwy na hanner y profion yn rhan o waith profi arferol o weithwyr cartrefi gofal a oedd heb symptomau.
Y canlyniadau yma oedd y mwyaf araf, gydag ychydig dros draean yn dod yn 么l o fewn diwrnod.
Roedd 70% o brofion "ar alw" mewn canolfannau gyrru drwodd a chymunedol wedi cyrraedd y targed, fel y gwnaeth 88% o brofion ysbyty.
Mae perfformiad y profion hyn, yn wahanol i'r profion cartrefi gofal, wedi bod yn gwella'n raddol dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Dywed y llywodraeth eu bod am gynyddu oriau gweithredu labordai Cymru gan nad ydyn nhw ar agor ar hyn o bryd am 24 awr y dydd.
Mae nhw hefyd yn ceisio cyflymu cludo samplau a'r amser mae'n gymryd i brosesu profion yn y labordai.
Dim ond wyth o achosion positif o Covid-19 gafodd eu nodi o'r newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mercher, ond bu farw pum person yng Nghymru gyda'r haint yn y 24 awr ddiwethaf.
Ble mae samplau profion coronafeirws yn cael eu hanfon?
Wedi i'r swab gael ei gymryd, mae sampl naill ai'n cael ei anfon i labordy GIG Cymru neu i "labordy goleudy", sef rhwydwaith o labordai Covid arbenigol yn Lloegr a'r Alban.
Mae Cymru wedi bod yn defnyddio'r rhai yn Milton Keynes a Manceinion yn bennaf ond mae labordy goleudy i fod i agor yng Nghasnewydd cyn bo hir.
Hyd yn hyn, mae mwy na 275,000 wedi cael eu prosesu yn labordai GIG Cymru a bron i 150,000 mewn labordai goleudy.
Ond mae'r wythnos gyntaf hon o ddata newydd yn dangos bod labordai GIG Cymru yn dal i fod yn arafach na'r labordai goleudy.
Faint o brofion sy'n dod yn 么l o fewn 24 awr?
Mae'r ystadegau'n mesur yr amser o gasglu sampl (rhywun yn cael swab) i'r foment y daw canlyniad yn y lab ac wedyn yn dod ar gael ar gyfer olrhain cyswllt.
Nid yw'r amser y mae'n ei gymryd i bobl gael gwybod am eu canlyniad wedi'i gofnodi yn y data.
Mae 49% o brofion labordy GIG Cymru yn dod yn 么l o fewn 24 awr, tra bod hynny'n wir am 53% o rai mewn labordai goleudy.
Wrth edrych yn fanylach ar y ffigyrau, mae gwahaniaethau mawr yn dibynnu ar ble cymerwyd y sampl.
Ar gyfer labordai goleudy, mae profion a gasglwyd mewn canolfannau profi - y rhai sy'n gyrru trwodd neu "canolfannau prawf cymunedol" - bron bob amser yn cael eu prosesu o fewn 24 awr.
Mae 95% o fwy na 20,000 o brofion a wnaed fel hyn wedi cyrraedd y targed.
Mae profion sy'n cael eu gwneud adref a rhai sy'n cael eu harchebu gan gartrefi gofal yn brosesau arafach - y rhai cartref am eu bod yn cael eu postio i'r labordai.
Mae profion cartref gofal yn arafach am eu bod yn cael eu hanfon mewn gr诺p ar 么l i nifer penodol o staff gael eu profi.
Ar yr wyneb, mae labordai GIG Cymru yn ymddangos yn arafach o ran canolfannau prawf.
Dim ond 42% o'r profion gyrru drwodd sydd wedi dod yn 么l o fewn 24 awr, a dim ond 39% o unedau profi cymunedol. Yn ystod rhai wythnosau mae'r ffigyrau wedi bod mor isel 芒 25%.
Ond yn labordai GIG Cymru, mae'r ystadegau ar gyfer y canolfannau profi yn cynnwys profion a wneir mewn cartrefi gofal, a ry'n ni'n gwybod bod y rheiny'n arafach.
Sut y gallan nhw fynd yn gynt?
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod am "symleiddio a chyflymu'r system".
Caiff samplau o ganolfannau prawf eu cario gan negesydd i'r labordai.
Mae nifer y casgliadau gan negeswyr wedi cynyddu, ond mae gwaith yn dal i gael ei wneud i geisio gwneud y system yn fwy effeithlon.
Mae amseriad cyflwyno samplau hefyd yn cael ei ystyried, oherwydd os bydd llawer o brofion yn cyrraedd ar yr un pryd, mae hynny'n creu 么l-groniad.
Ac mae Mr Drakeford wedi nodi o'r blaen bod y ffordd y caiff samplau eu stampio gydag amser penodol yn broblematig oherwydd os bydd prawf yn cyrraedd yn hwyr yn y dydd, cofnodir ei fod yn cyrraedd ar y diwrnod calendr hwnnw, yn hytrach na'r union amser y cyrhaeddodd, felly nid oes ganddo fawr o obaith o gyrraedd y targed 24 awr.
Mae swyddogion y llywodraeth hefyd am wella'r peiriannau yn y labordai.
Yn wahanol i'r labordai goleudy, nid yw labordai GIG Cymru yn gweithio 24 awr y dydd.
Efallai y bydd angen ystyried recriwtio mwy o bobl a'u hyfforddi er mwyn symud i weithrediad 24 awr, er mwyn ymdopi ag unrhyw gynnydd yn nifer yr achosion yn ystod y gaeaf.
Beth yw ymateb y gwrthbleidiau?
Dywedodd y Blaid Geidwadol fod y llywodraeth yn "parhau i fethu cael gafael ar elfennau allweddol o gynllun profi Covid-19".
Ychwanegodd llefarydd y blaid ar iechyd, Andrew RT Davies, fod "hyn yn bryder gwirioneddol cyn fisoedd y gaeaf".
Dywed y dylai'r llywodraeth flaenoriaethu cynyddu'r niferoedd o brofion a chael y canlyniadau yn 么l yn gynt.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Er bod amseroedd profion wedi gwella, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gyflymu'r gwelliannau y maen nhw eu hunain yn cydnabod sydd angen eu gwneud - gan gynnwys mewn cartrefi gofal ac mewn clystyrau lleol, fel rhan hanfodol o gadw'r feirws dan reolaeth ac atal ton arall."