91热爆

Galw am roi mwy o hawliau i bobl gael gweithio o adref

  • Cyhoeddwyd
prifysgol caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae adeiladau Prifysgol Caerdydd yn fwy gwag nag arfer

Mae 'na alw am newid y ddeddfwriaeth gyflogaeth er mwyn sicrhau bod rhagor o hawliau gan bobl i weithio o adre'.

Yn ystod y pandemig coronafeirws mae 'na gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y gweithwyr yng Nghymru sydd yn gweithio o'u cartrefi.

Mae Plaid Cymru a'r Blaid Lafur am newid y gyfraith fel bod gan weithwyr yr hyblygrwydd i ddewis un ai i weithio o adre neu yn y swyddfa.

Yn wreiddiol o Grymych, mae Jack Davies bellach yn byw yng Nghaint ac yn teithio i Lundain ble mae'n gweithio fel cyfreithiwr.

Fe fyddai'r siwrne o dros awr ar y tr锚n yn un ddyddiol i Jack fel arfer, ond ers y cyfnod clo mae e wedi bod yn gweithio o adre.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

"Ers y cyfnod clo mae 'na lot o gyfarfodydd dros Zoom, lot o weithio'n annibynnol, jest drafftio cytundebau," meddai.

"Ma' hynny wedi bod yn eitha' unig. Ers y cyfnod clo dwi wedi bod yn safio lot - arian ac amser - ma' hynny'n gr锚t.

"Ond dwi mewn cyfnod yn fy ngyrfa lle nad oes lot o brofiad 'da fi - felly ma' angen i fi fynd mewn i'r swyddfa i ddysgu wrth y partneriaid. Felly dwi wedi gweld hynny yn anodd ar adegau.

"Ar 么l cyfnod clo bydden i'n licio gweld y cyflogwyr yn bod yn fwy hyblyg."

Mae adroddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd yn dangos sut mae'n patrymau gweithio wedi newid yn ystod y cyfnod clo.

Cyn y pandemig mae'n debyg bod 14.4% o weithwyr yng Nghymru yn gallu cwblhau eu gwaith adre' yn gyson.

Ond erbyn mis Mai eleni roedd arolwg yn awgrymu bod tua 23% o bobl oedd mewn gwaith neu oedd yn hunan gyflogedig yn gweithio o adre'.

Ac mae'n bosib y gallai 39.9% o'r gweithlu gwblhau eu gwaith yn eu cartrefi os ydyn nhw'n dymuno.

Ond wrth i ragor ohonom ystyried gweithio o adre', mae 'na alwadau i gryfhau'r ddeddfwriaeth i amddiffyn gweithwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gweithio o adref yn siwtio rhai pobl, ond mae'n rhaid gwarchod eu hawliau, medd Hywel Williams

Mae Plaid Cymru a'r Blaid Lafur am weld newid deddfwriaethol fyddai'n rhoi rhagor o hawliau i weithwyr allu dewis un ai i weithio adre neu yn y gweithle.

"Efo Covid ma' cymaint o bobl yn gweithio o adref r诺an, a ma' rhaid edrych am amddiffynfeydd sydd 'na iddyn nhw a pha hawliau sydd ganddyn nhw hefyd o ran hynny," meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon.

"Wrth i bethau newid efo Covid ma' rhywun yn gweld be' ydy'r cyfleoedd hefyd, a ma' gweithio o adra'n siwtio rhai pobl, ond ma' rhaid amddiffyn eu hawliau nhw."

'Angen cydbwysedd'

Dywed y Blaid Lafur bod angen newidiadau i'r gyfraith er mwyn darparu rhagor o hyblygrwydd a hawliau i weithiwyr allu gweithio o adre.

Ond mae angen cydbwysedd, meddai cymdeithas cyflogwyr y CBI.

Maen nhw'n derbyn bod cwmn茂au'n gwerthfawrogi buddion gweithio o adre, ac yn awyddus i ddysgu o'r cyfnod clo.

Ond ar yr un pryd maen nhw'n dweud nad yw pob cartref yn lle da i weithio, a taw dychwelyd i'r gweithle yw'r opsiwn gorau weithiau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Guto Ifan y gallai fod cyfleoedd i economi Cymru yn y pen draw

Dywedodd Llywodraeth y DU bod y ddeddfwriaeth gyflogaeth bresennol eisoes yn rhoi'r hawl i weithwyr wneud cais i weithio o adre', a'u bod yn edrych ar ragor o ffyrdd i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr i weithio'n hyblyg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn edrych ar batrymau gweithio'r Cymry yn ystod y cyfnod clo.

Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yw cyd-awdur adroddiad sy'n edrych ar effaith Covid-19 ar yr economi.

"Mae canran is o weithwyr Cymru'n gallu gweithio o adre o'i gymharu gydag ardaloedd eraill Prydain a bydde hynny'n ergyd i economi Cymru yn y tymor byr," meddai.

"Ond efallai yn y pen draw fe fydd 'na gyfleoedd i economi Cymru, oherwydd os nad oes angen bod mewn dinasoedd mawr i fod mewn swyddi sy'n talu'n uchel iawn fe fydd hwnna yn effeithio ar ardaloedd Cymru yn wahanol a falle safle Cymru o fewn economi Prydain."