Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cannoedd yn angladd Andrew 'Tommo' Thomas yn Aberteifi
Mae cannoedd o bobl wedi dod allan yn Aberteifi ar gyfer angladd y darlledwr Andrew 'Tommo' Thomas.
Bu farw'r cyflwynydd radio adnabyddus yn sydyn yn ei gartref fis diwethaf, ag yntau'n 53 oed.
Fe wnaeth y dorf ymgasglu fore Sadwrn ger cae p锚l-droed Maesglas yn y dref, ble roedd y gwasanaeth yn cael ei gynnal.
Cyrhaeddodd yr hers i gyfeiliant 'Yma O Hyd' gan Dafydd Iwan, gyda llawer o bobl yn gwisgo crysau'r Scarlets a CPD Abertawe.
'Egni, bwrlwm a charedigrwydd'
Roedd y ddau d卯m yn agos at galon Tommo, oedd yn adnabyddus fel y llais ar yr uchelseinydd ym Mharc y Scarlets yng ngemau rygbi'r rhanbarth.
Bu'n llais cyfarwydd i wrandawyr radio yn ngorllewin Cymru am flynyddoedd, gan ennill gwobr Cyflwynydd Radio'r Flwyddyn yn 2011 am ei waith ar orsafoedd Nation yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Rhwng 2014 a 2018 roedd yn gyflwynydd rhaglen y prynhawn ar 91热爆 Radio Cymru, cyn gadael i gyflwyno rhaglen ddyddiol ar orsaf Nation Broadcasting.
Y Parchedig Huw George arweiniodd y gwasanaeth, gan danlinellu rhinweddau o gymeriad Tommo - Y s诺n mawr, yr egni a'r bwrlwm, ond hefyd y caredigrwydd a'r cariad diderfyn at ei deulu.
Cyn-fewnwr Cymru a'r Scarlets, Rupert Moon aeth ymlaen 芒'r teyrngedau, gan danlinellu cyfraniad Tommo i fyd rygbi yn ardal Llanelli a thu hwnt.
Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr cyffredinol Y Scarlets: "Ar adegau fel hyn, chi'n cofio'r cyfraniadau mae pobl wedi neud i'ch bywyd chi, ac mae'n gadael twll mawr.
"Ond yn sicr, bydd Tommo yn edrych lawr ar hyn, yn chwerthin, yn hapus fod cymaint o bobl o'r cymunedau oedd e'n eu cynrychioli, Y Scarlets, Aberteifi, Maesglas, a'r Swans, yma heddi i ffarwelio ag e."
Fel rhan o'r gwasanaeth, fe ddaeth y gr诺p lleol Ail Symudiad i'r llwyfan gan chwarae un o hoff ganeuon Tommo, 'Geiriau'.
Dywedodd Richard Jones, y prif leisydd, fod colli'r darlledwr wedi bod yn "dristwch mawr".
"We ni byth yn meddwl fydde fe'n dod i hyn gyda fe achos wedd e'n llawn bywyd," meddai.
"Dyn onest, yn 'neud lot i elusennau, yn meddwl lot o'i ardal, ac o Gymru. Mae'n drist iawn, ac mae'n rhaid i ni fod yma i roi teyrnged iddo fe.
"Mae pobl y dre' yn meddwl lot ohono fe, a wedd e'n meddwl lot o bobl y dre'.
"Ond yr atgof mwyaf yw y sbort. 'Y s诺n mawr' oedd e'n galw'i hunan, ond roedd e'n berson annwyl ac mae'n golled fawr i ni gyd."
Fe ddaeth y gwasanaeth cyhoeddus i ben gyda'r arch yn cael ei chludo trwy ganol tref Aberteifi, a'r bobl yno yn sefyll yn cymeradwyo, wrth ffarwelio ag un o bersonoliaethau mwyaf yr ardal.