Ateb y Galw: Yr actores Tonya Smith

Ffynhonnell y llun, Tonya Smith

Yr actores Tonya Smith sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Richard Elis yr wythnos diwethaf.

Cafodd Tonya ei magu yn y G诺yr, ond treuliodd gyfnod yn yr Unol Daleithiau ar 么l i'w theulu symud yno oherwydd gwaith ei thad. Mae hi'n wyneb cyfarwydd ar lwyfan a sgrin, gan actio yn Gymraeg a Saesneg. Mae hi'n ymddangos yn rheolaidd ar y rhaglenni Jamie Johnson ar y 91热爆 a Lolipop ar S4C, ond mae hi'n cael ei chofio fwyaf fel y cymeriad Yvonne Evans yn Pobol y Cwm

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Byw yn Indiana yn America a gofyn i Grandma a Grandad i hala box o Weetabix draw achos o'n nhw ddim yn gwerthu fe yn y siopau lle o'n ni.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Johnny Depp (roedd poster fe lan ar y wal) a Tom Hanks (yn Splash).

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Fi'n cofio mynd rownd i d欧 ffrind Mam a Dad ac roedd ei ferch gyda tray o tester lipsticks o un bob lliw. Nes i ddwyn un ac wedyn teimlo mor ofnadwy o'n i methu cysgu tan i fi ddweud a rhoi fe n么l iddi.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Roedd Tonya yn actio Yvonne ar Pobol y Cwm, a briododd Gwyneth - ond chwalwyd popeth pan datgelwyd ei chyfrinach ei bod yn gweithio i'r heddlu cudd

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Neithiwr yn gwylio Marvel Endgame gyda'r merched. Ni wedi gwylio nhw gyd dros y cyfnod clo a hwn oedd yr un olaf.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gorfod edrych ac ail-edrych (a mwy o weithiau) os mae'r drws ar glo, Y ffwrn a sockets plwg i ffwrdd cyn mynd i wely

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae gyda fi dau.

Monknash yn mynd lawr trwy'r goedwig i'r m么r. Dwli gwario amser gyda fy ng诺r a'r merched yma.

Aberystwyth. Es i ar gwrs Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru pryd o'n i'n 17 oed a 'naeth e newid fy mywyd. Nes i cwrdd 芒 fy ng诺r a fy ffrindiau gorau a chael amser bythgofiadwy.

Disgrifiad o'r llun, Aberystwyth odidog ar ddiwrnod braf

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson ein priodas. Oedd fy mochau yn brifo o wenu siwd gymaint. Cael teulu a ffrindiau gorau i gyd mewn un ystafell yn dawnsio a chwerthin.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cariadus. Ysbrydol. Mam.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Am茅lie - dwli ar y cerddoriaeth.

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i dant sugno dal yn fy ngheg. Mae gan Mam yr un peth a gwmws yr un dant, a Mam hi cyn 'ny hefyd.

O archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Traeth unig gyda'r teulu yn yr haul a wedyn adre am cwtsh, popcorn a ffilm ar y soffa!

Beth yw dy hoff g芒n?

Over the Rainbow, Israel Kamakawiwoole. Wedi tyfu lan yn dwli ar The Wizard of Oz, ond yn fwy ddiweddar 50 First Dates. A wedi canu fe pob nos i'r merched i helpu nhw fynd i gysgu

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Tom Hanks - gweler yr ateb uchod! A bydden i'n dwli gweithio gyda fe - bydde un olygfa yn ddigon!

Disgrifiad o'r llun, Tom Hanks - boi neis Hollywood. Si诺r byddai Tom yn hapus i gael diod gyda ti, Tonya, os fyddet ti'n gofyn...

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Salad mango a prawn. Fajitas. Hufen i芒 o Joe's Ice Cream- fanila gyda sprinkles siocled.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Neb rili. Wedi gweud hynny, fi wastad wedi mwynhau y ffilmiau Freaky Friday neu Vise Versa. Falle bydde fe'n hwyl!

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Tom Blumberg