91热爆

Ateb y Galw: Yr actor Richard Elis

  • Cyhoeddwyd
Richard ElisFfynhonnell y llun, Richard Elis

Yr actor Richard Elis sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Dan Thomas.

Mae Richard, yn wreiddiol o Landybie ger Rhydaman ond yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig, yr actores Tonya Smith a'u dwy ferch. Mae'n adnabyddus am actio yn y theatr, ar deledu a ffilm yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys 35 Diwrnod, Gwaith/Cartref, Tourist Trap ac Eastenders.

Mae gan y teulu gyfres o'r enw #LockDad! ar YouTube, yn rhoi golwg ysgafn ar y problemau yn ystod y clo mawr.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar feic modur Dad. Wel, i fod yn onest, yr atgof ydy cael stranc masif pan wnaeth Dad droi yr injan i ffwrdd.

Bydden i'n aros i Dad reidio'r beic i fyny at y garej tu cefn i'r t欧 a wedyn bydde fe yn gadel i fi eistedd ar y beic gyda fe a gwthio fi ar y beic i'r garej. Wedyn y stranc fwya wrtha i pob tro oedd y beic yn cael ei ddiffodd!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Wendy James o Transvision Vamp a Barbara Windsor!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n rhaid bod Richard Elis wrth ei fodd i gael chwarae rhan Huw Edwards yn Eastenders o 1996 i 1999 - ochr yn ochr 芒 Barbara Windsor (Peggy Mitchell)

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae nifer fawr o rhain gyda fi - ond un sy' wedi sefyll gyda fi oedd gweud "I love you" i sound engineer yn Llundain. Fi dal ddim cweit yn gwbod beth o'n i'n trio gweud, falle cyfuniad o Thank You a Lovely, ond "I love you" ddaeth m芒s yn glir.

Stopodd e ac edrych arna i gan ateb "but we've only just met." Awr anghyfforddus iawn yng nghwmni ein gilydd wedyn yn lleisio rhyw advert neu gilydd!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Bore 'ma. Fi'n llefain yn aml, ma' nifer fawr o bethau yn gallu dechrau fi bant. Adverts, caneuon... mae rhestr fawr. Bore 'ma roedd gweld fy merched i yn dal dwylo wedi 'neud fi lefen. Mor syml 芒 'ny!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n casau pobol yn bwyta o gwmpas fi - fy arfer gwael fi yw gweud wrthon nhw i fod yn dawel. Unrhywun, yn unrhyw le, ar unrhyw bryd!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Richard atgofion melys o'i blentyndod yng Nghastell Carreg Cennen yn Sir G芒r

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Castell Carreg Cennen - ges i fy magu bron yng nghysgod y castell yma. Atgofion hyfryd o blentyndod.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Eto mae nifer fawr o'r rhain, ond un o'r rhai mwya' gwyllt oedd ar 么l gig Stereophonics yn Abertawe. Fi, fy ngwraig, fy ffrindiau gorau a yffarn o barti oedd wedi para tridie!

Ar un pwynt, ro'n i a chriw o bobol o'n i byth wedi cwrdd o'r blaen yn chware golff ar ben to warehouse gwag yn rhywle!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Richard (yn y blaen ar y dde) yn chwarae rhan yr athro Wyn Rowlands yn Gwaith/Cartref ar S4C

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cariadus, emosiynol, direidus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff ffilm - The Big Lebowski! Quotes di-ri a dwi'n chwerthin ar rhywbeth gwahanol bob tro fi'n gwylio fe.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Dad - jyst er mwyn cael un noson arall yn ei gwmni.

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

O'n i'n arfer gweithio fel life guard yn y pwll nofio lleol yn Ysgol Tre Gib yn Llandeilo pan o'n i'n tyfu fyny.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Eistedd yn fy hoff le yn y byd gyda fy hoff bobol - ar y soffa yn t欧 ni gyda fy ngwraig a fy merched.

Beth yw dy hoff g芒n?

Ar y foment - Charlie Worsham, Young To See.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Risotto madarch, Byrger Spicy Uncle Pedro a Dirty fries gyda Root Beer i yfed o'r Grazing Shed, ac i bwdin Lemon Meringue Pie!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Eric Morecombe i weld sut mae'n teimlo i fod yn genius.

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Tonya Smith

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 91热爆 Cymru Fyw