91热爆

Gallai athrawon Cymru gael codiad cyflog

  • Cyhoeddwyd
athrawesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynigion yn cynnwys codiad cyflog o 8.4% i athrawon newydd a 2.75% yn fwy i benaethiaid

Gallai athrawon yng Nghymru gael codiad cyflog o 3.75%.

Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cynnig bod cyflogau y brif raddfa yn codi, mae hi hefyd yn argymell bod cyflogau athrawon newydd yn codi 8.48% a bod penaethiaid, penaethiaid cynorthwyol a dirprwyon yn cael cynnydd o 2.75%.

Ond yn 么l un undeb addysg dyw'r cynigion ddim yn delio 芒 "gostyngiad real" cyflogau.

Ar gyfartaledd byddai codiad cyflog athrawon yng Nghymru yn 3.1%.

Bydd cyflog cychwynnol athrawon yn uwch na 拢27,000.

O dan y drefn newydd byddai graddfa gyflog yn cael ei chyflwyno a fyddai'n caniat谩u athrawon i gyrraedd brig y raddfa o fewn pedair blynedd - blwyddyn yn gynt.

Y cam nesaf fydd ymgynghori am wyth wythnos cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.

Dywed Llywodraeth Cymru bod egwyddor yr argymhellion wedi'i derbyn a bod y gweinidog wedi cynnig codiadau eraill er mwyn sicrhau bod athrawon Cymru yn derbyn yr un codiad cyflog ag athrawon Lloegr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed y Gweinidog Addysg ei bod am ddenu athrawon o'r safon uchaf

Dywedodd Ms Williams: "Bydd y cynlluniau sy'n cael eu cynnig yn helpu i ddatblygu system decach a mwy tryloyw ar gyfer athrawon Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru am hybu dysgu fel gyrfa y mae graddedigion yn ei dewis ac rwy'n credu y byddai'r newidiadau yma yn denu athrawon o'r safon uchaf."

Ymateb yr undebau

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Rydym yn llawenhau i weld ail-gyflwyno graddfeydd cyflog cenedlaethol - a dileu trefniadau t芒l ar sail perfformiad. Dyma ddau welliant mae UCAC wedi bod yn ymgyrchu drostynt ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drefniadau cyflog athrawon ledled Cymru.

"Yn ogystal, rydym yn croesawu'r codiadau cyflog sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn a argymhellwyd gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Gobeithiwn y bydd y newidiadau hyn yn help i ddenu pobl i'r proffesiwn, ar adeg pan mae wir angen hynny.

"Fodd bynnag, rydym yn siomedig bod y codiad cyflog i arweinwyr ysgol yn is nag ar gyfer gweddill y proffesiwn. Mae arweinwyr ysgol yn ysgwyddo lefelau uchel iawn o gyfrifoldeb, wrth reoli sefydliadau cymhleth mewn amgylchiadau anodd ac ar brydiau anwadal. Bydd y lleihad yn y gwahaniaeth rhwng cyflogau athrawon a chyflogau arweinwyr yn debygol o fod yn niweidiol i'r ymdrech i annog athrawon i ddewis llwybr arweinyddol."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dywed undeb NASUWT nad yw'r "cynlluniau yn mynd i'r afael yn iawn 芒'r gostyngiad cyflog y mae athrawon Cymru wedi ei brofi ers 2010."

Dywedodd undeb yr NAHT bod "codiad cyflog na sydd wedi ei gyllido" yn achosi pryder i benaethiaid.

Yn 么l llefarydd byddai yn golygu penderfynu pa doriadau sydd yn rhaid iddynt eu gwneud i fforddio talu am godiad cyflog i staff "a gallai fod yn sefyllfa o golli rhai staff er mwyn rhoi mwy o arian i'r gweddill."