Cyhoeddi anrhydeddau'r Orsedd er nad oes Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae'r Orsedd wedi cyhoeddi enwau'r bobl oedd i fod i gael eu hanrhydeddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Bu'n rhaid i'r trefnwyr ohirio'r 诺yl tan y flwyddyn nesaf, oherwydd y pandemig coronafeirws.
Dywedodd llefarydd ar ran Gorsedd y Beirdd y bydd y seremoni urddo'n cael ei gynnal ar faes y brifwyl yn Nhregaron yn 2021.
"Y bwriad yw sicrhau ein bod yn gallu cyd-ddathlu eu llwyddiant a'u hanrhydedd ac edrych ymlaen at gyfnod pan allwn ddod ynghyd yn ddiogel er mwyn eu hurddo yn y ffordd draddodiadol ac urddasol y flwyddyn nesaf," meddai.
Mae'r anrhydeddau blynyddol yn gyfle i roi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau, ac maent yn cael eu rhannu i dair categori:
Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau
Y Wisg Las i rai sy'n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl
Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig
Mae rhestrau llawn o'r anrhydeddau wedi'u rhannu'n ddaearyddol yma:
Cydnabyddiaeth
Un fydd yn derbyn anrhydedd y wisg werdd yw Elin Haf Gruffudd Jones, fu'n gweithio am dros 30 mlynedd mewn rhwydweithiau a phrosiectau sy'n cysylltu Cymru a'r Gymraeg gyda chyfandir Ewrop, gan fanteisio ar ei phrofiad rhyngwladol i gyfoethogi'r drafodaeth am y Gymraeg.
Dywedodd: "Mae e wir yn anrhydedd ac yn dangos pwysigrwydd y berthynas rhwng Cymru a'r byd - yn enwedig mewn cyfnod lle mae'r berthynas rhwng y DU ag Ewrop yn gwanhau.
"Mae e'n dda cael cydnabyddiaeth i waith rhyngwladol drwy gyfrwng y Gymraeg."
Mae enw Wynne Melville Jones yn gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist. Dyn datblygu syniadau a'u gwireddu ydyw. Mae'r Urdd yn agos at ei galon ac mae'n Llywydd Anrhydeddus y mudiad.
Dywedodd ei fod yn "naturiol yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth yn fawr iawn.
"Yn enwedig gan fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Ngheredigion, ac yn benodol yn Nhregaron sef fy nhref enedigol i ac mae'n golygu llawer iawn yn yr ystyr yna.
"Rwy'n edrych arno fel cydnabyddiaeth i ardal Tregaron ac i bobl Tregaron.
"Achos mod i wedi treulio oes yn gweithio mewn PR ond mae popeth ddysges i am PR yn deillio o'm magwraeth i yn Nhregaron, lle oedd y gymuned yn glos a lle'r oedd pobl yn bwysig iawn iawn iawn."
Mae Cledwyn Ashford wedi gweithio gyda rhai o s锚r mwyaf y byd p锚l droed, gan eu mentora pan yn ifanc a chadw llygad agos ar eu datblygiad dros y blynyddoedd. Ond mae 'Cled' yn adnabyddus hefyd fel aelod hanfodol o'r t卯m sy'n rhedeg Maes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos.
Roedd yn syndod iddo ond yn anrhydedd o'r mwyaf i dderbyn y Wisg Las, meddai.
"Teimlad anhygoel i ddweud y gwir.
"Nes i agor y llythyr - a'r peth cyntaf daeth i'n meddwl oedd ma' rhywun yn tynnu'n nghoes i, achos bod gymaint ohona ni yn tynnu coes ein gilydd yn y lle 'ma.
"Felly y peth cyntaf wnes i oedd ffonio Swyddfa Eisteddfod i weld os oedd o'n genuine ac wedyn teimlad o anrhydedd mawr."
Ei chyfraniad i fyd bowls sy'n mynd 芒 bryd Anwen Butten ac fe'i hanrhydeddir gyda'r wisg las am ei chyfraniad i'r gamp ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.
Dywedodd: "Ges i sypreis a sioc enfawr pan ddaeth y llythyr. Mae'n fraint ac yn anrhydedd i fod yn rhan o'r orsedd. Rwy'n hapus ofnadwy a balchder ofnadwy i mam a dad a'r teulu i gyd.
"Rwy'n gwbod bod pethe ar chwal leni, ond edrych mlaen i flwyddyn nesaf."
Enwau ychwanegol
Yn ychwanegol i'r rhestrau rhanbarthol mae Ronan Hirrien o Lydaw a Begotxu Olaizola o Wlad y Basg yn derbyn y Wisg Werdd.
Ronan Hirrien: Magwyd Ronan Hirrien mewn pentref bach yn ardal Brest, Llydaw, yn ddi-Lydaweg, ond yn ddwy ar bymtheg oed, aeth ati i ddysgu'r iaith mewn dosbarthiadau nos ac yn y brifysgol, cyn troi'i law at ddysgu'r Gymraeg. Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu yw Ronan wrth ei waith; mae'n creu rhaglenni dogfen o safon sy'n cynnig dyfnder, sylwedd a gwedd newydd ar bobl, llefydd a phynciau pwysig yn niwylliant Llydaw. Cynhyrchodd ffilm ddogfen Aneirin Karadog: Barzh e Douar ar Varzhed, gan ddangos cryfder y diwylliant Cymraeg trwy gyfrwng y byd barddol, yr Eisteddfod a'r Orsedd. Mae'i anrhydeddu'n symbol grymus o sut y gall perchnogi'r Gymraeg arwain at berthyn i deulu'r iaith a'i diwylliant.
Begotxu Olaizola: O Zarautz, Gwlad y Basg, yn sicr yw'r Fasges fwyaf adnabyddus yng Nghymru, a thros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, cyfrannodd yn helaeth at feithrin a hyrwyddo'r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg, er budd ein hiaith a'n diwylliant. Cyflawnodd hyn fel sylwebydd a dehonglydd, fel trefnydd teithiau i unigolion a dirprwyaethau, fel tywysydd ac fel cyfieithydd. Mae hi hefyd yn ymgyrchydd ymroddedig ac effeithiol dros hawliau lleiafrifoedd ieithyddol ym mhob man. Daeth yn gyfarwydd i gylchoedd ehangach wrth gyfrannu i raglenni Cymraeg dros y blynyddoedd, gan sylwebu ar ddigwyddiadau yng Ngwlad y Basg a Sbaen yn gyffredinol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020