Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
40% o blant heb fynychu ysgolion wedi iddyn nhw ailagor
- Awdur, James Williams
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 91热爆 Cymru
Ni wnaeth bron i 40% o ddisgyblion Cymru fynychu'r ysgol ar 么l cael gwahoddiad i wneud hynny cyn diwedd tymor yr haf, yn 么l ystadegau Llywodraeth Cymru.
O 29 Mehefin, roedd disgyblion wedi dychwelyd fesul cam ar gyfer sesiynau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyn tymor mis Medi.
Mae ysgolion wedi cyfyngu'r niferoedd sy'n mynychu ar unrhyw adeg penodol oherwydd mesurau pellhau cymdeithasol ac nid yw rhieni wedi cael dirwy os nad yw eu plant wedi mynd i'r ysgol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn deall "pryderon teuluoedd a'u bod yn amlwg nad oedd presenoldeb yn orfodol."
'Dal i fyny'
Caeodd y mwyafrif o ysgolion yng Nghymru ar 20 Mawrth, ond arhosodd rhai ar agor i blant bregus a phlant gweithwyr allweddol.
Mae ffigyrau swyddogol yn dangos, o'r tua 24,112 o blant bregus yng Nghymru, roedd presenoldeb wythnosol mewn ysgolion rhwng 24 Mawrth a 26 Mehefin wedi amrywio o rhwng 0.9% a 6.3%.
Mae plant bregus yn cael eu diffinio fel plant sydd 芒 gweithiwr cymdeithasol neu anghenion addysgol arbennig.
Pan gyhoeddwyd y byddai ysgolion yn ailagor o 29 Mehefin, dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ei bod yn bwysig sicrhau "tegwch" trwy roi cyfle i bob plentyn "ddal i fyny" a pharatoi gyda'u hathrawon cyn gwyliau'r haf.
Dim ond am dair wythnos yr agorodd o leiaf tri chwarter ysgolion Cymru, ond mae tymor yr haf wedi'i ymestyn am wythnos ychwanegol i ddisgyblion yng Nghonwy, Sir Benfro a Phowys.
61% wedi mynychu sesiwn
Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 61% o'r disgyblion a wahoddwyd i fynychu o leiaf un sesiwn wythnosol wedi mynd i'r ysgol dros y tair wythnos rhwng 29 Mehefin a 17 Gorffennaf.
Ond, yn yr wythnos gyntaf, ni aeth 37.1% o'r disgyblion a wahoddwyd, ac roedd y ganran yn 38.7% yn yr ail wythnos, a 41.5% yn y drydedd wythnos.
Nid yw Cynghorau Sir y Fflint ac Abertawe wedi darparu unrhyw ddata, tra na wnaeth ysgolion yn Ynys M么n ailagor tan wythnos olaf tymor yr haf oherwydd nifer o brofion coronafeirws positif yn gysylltiedig 芒 ffatri 2 Sisters yn Llangefni.
Bydd holl ysgolion Cymru yn ailagor i'r holl ddisgyblion ym mis Medi gydag ond ychydig o ymbellhau cymdeithasol o fewn grwpiau o thua 30 o ddisgyblion.
Ond ni fydd rhieni'n cael dirwy os nad ydyn nhw'n anfon eu plant i'r ysgol.
Wrth ymateb i'r ffigyrau presenoldeb diweddaraf, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Si芒n Gwenllian: "Nid yw'n syndod bod presenoldeb yn isel er gwaethaf yr ymdrech enfawr a aeth i ailagor yr ysgolion am dair wythnos.
"Roedd llawer o rieni a disgyblion yn cwestiynu gwerth mynychu ysgol am ychydig ddyddiau yn unig ac roeddent yn ofni bod y feirws yn dal i fod o gwmpas ac mae'r ystadegau diweddaraf hyn yn cadarnhau hynny."
Ychwanegodd Suzy Davies, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig: "Nid yw'n dangos yr ymchwydd hyder yr oedd y gweinidog yn gobeithio amdano.
"Mae hynny gryn dipyn yn llai yn dychwelyd na'r hyn oedd wedi'i ddisgwyl.
"Rhaid i ni wybod pam - faint sy'n ganlyniad i'r ansicrwydd a greodd y gweinidog, undebau a chynghorau dros ddychwelyd am bedwaredd wythnos; faint yw ofnau ynghylch diogelwch; faint sydd i lawr i rieni ddim yn meddwl ei fod werth o ; faint sydd i lawr i resymau mwy pryderus?"
'Pwysig cofio'r cyd-destun'
Dywedodd Gareth Evans, cyfarwyddwr polisi addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Er ei bod yn siomedig na ddychwelodd mwy o ddisgyblion i'r ysgol pan roddwyd y cyfle iddynt, mae'n bwysig cofio'r cyd-destun unigryw yr ailagorodd ysgolion.
"Mae'r ffigyrau hyn yn golygu y bydd nifer fawr iawn o ddisgyblion yn dechrau yn yr ysgol ym mis Medi ar 么l cael dim addysg wyneb yn wyneb am chwe mis, sy'n rhoi syniad i chi o'r her sy'n wynebu ein system addysg."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cymru oedd yr unig genedl yn y DU lle cafodd yr holl ddisgyblion gyfle i ddychwelyd yn ystod tymor yr haf, i ddal i fyny 芒'u hathrawon a'u cyd-ddisgyblion a pharatoi ar gyfer mis Medi.
"Fodd bynnag, rydym yn deall pryderon teuluoedd ac roeddem yn amlwg nad oedd presenoldeb yn orfodol.
"Rydyn ni wedi darparu arweiniad i ysgolion fel y gall pob disgybl ddychwelyd yn ddiogel ym mis Medi."