Salonau harddwch a'r farchnad dai yn ailagor yn llawn
- Cyhoeddwyd
Bydd rhagor o fusnesau'n croesawu eu cwsmeriaid cyntaf ers misoedd, wrth i fwy o gyfyngiadau coronafeirws gael eu codi o ddydd Llun ymlaen.
Mae salonau harddwch ac ewinedd, salonau lliw haul, a pharlyrau tyllu a that诺 ymhlith y busnesau fydd yn gallu ailagor.
Hefyd, bydd arwerthwyr tai yn gallu mynd a darpar brynwyr i weld t欧 lle mae rhywun yn byw ynddo.
Ers mis Mawrth dim ond rhith-ymweliadau oedd yn bosib os oedd rhywun yn dal i fyw mewn t欧 oedd ar werth, ond mae'r rheol honno'n cael ei chodi hefyd.
'Agor o'r diwedd'
Mae'r cyfnod clo wedi bod yn arbennig o anodd i Gwen Williams, sy'n rhedeg salon trin aeliau ac amrannau yn ogystal ag ewinedd, ym Miwmares.
"O'r diwedd - mae o wedi bod yn amser mor hir ers mis Mawrth," meddai Gwen, 21, sydd wedi bod yn rhedeg ei busnes Hidden Beauty yn llawn amser ers 2019.
"Roedden ni'n meddwl ella y basan ni'n gorfod cau am fis - dau fis max, a dwi wedi bod yn paratoi i ailagor o'r dechrau fwy neu lai."
Dywedodd Gwen ei bod hi'n anodd cael y wybodaeth ddiweddaraf gan y llywodraeth, ac nad oedd yn hollol glir pa driniaethau oedd yn cael eu caniat谩u o ddydd Llun ymlaen.
"Dwi wedi bod yn mynd ar wefan y llywodraeth bob dydd, ond dydy o ddim wedi bod yn glir be' 'da chi'n cael ei wneud a be' 'da chi ddim yn cael ei wneud. Sut 'dach chi fod i baratoi os ydych chi ddim yn gwybod be gewch chi wneud?"
Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd yn ariannol, meddai Gwen, gan nad oedd y busnes yn gymwys i dderbyn unrhyw gefnogaeth gan y llywodraeth.
"Dwi'n rhentu stafell yn y Bulkeley Hotel, felly dydi'r lle ddim fel siop arferol," meddai.
"Ac am fod y busnes wedi bod yn llawn amser am lai na 12 mis, dwi ddim yn cael unrhyw help yn fanna chwaith.
"Mi ydan ni'n llawn am y tair wythnos nesaf, ond mi ydan ni'n gadael tua chwarter awr rhwng clients er mwyn gwneud yn si诺r fod popeth yn l芒n ar gyfer y nesaf.
"Ond 'dan ni methu disgwyl ailagor ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd yn planio dod yn 么l atom ni yn yr wythnosau nesa ac am fod yn gefn i ni trwy'r cyfnod clo.
"Rydym yn teimlo fod y cyfnod yma wedi dod 芒 busnesau lleol yn agos at ei gilydd, a dangos fod pawb yma i'n gilydd mewn cyfnodau anodd."
O heddiw ymlaen fe fydd hawl gan bobl sydd eisiau gweld t欧 sydd ar werth - ond ble mae pobl yn dal i fyw - fynd i ymweld unwaith eto.
Dywedodd Melfyn Williams, un o gyfarwyddwyr cwmni gwerthu tai Williams & Goodwin, bod y cyfnod clo wedi creu problemau o ran ymweliadau 芒 thai.
"Mae o wedi creu ciw o bobl isio mynd i weld tai, felly mae o wedi bod yn dipyn o waith trefnu," meddai
"Cyn Covid os oedd lot o bobl isio gweld t欧, mi fasan ni wedi gwneud open house, ond dydy hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni jest byw efo'r sefyllfa am r诺an.
"Ond mae pethau'n edrych yn weddol, ac mae 'na ddigon o alw am dai.
"Mewn ffordd mae'r tri mis diwethaf yn digwydd r诺an, ac os bydd y farchnad yn dal fel hyn am ryw fis arall mi fydd yn edrych yn dda at weddill y flwyddyn ond dydyn ni ddim yn gwybod be fydd yr economi'n gwneud."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020