91热爆

2.8% o godiad cyflog i feddygon a deintyddion Cymru

  • Cyhoeddwyd
DeintyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd meddygon a deintyddion yng Nghymru yn cael codiad cyflog o 2.8%.

Mae'n dilyn penderfyniad gan Lywodraeth u DU i roi codiadau cyflog i 900,000 o weithwyr y sector cyhoeddus sydd hefyd yn cynnwys yr heddlu a swyddogion carchardai.

Dywedodd Mr Gething fod y cynnydd "yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'n meddygon a'n deintyddion diwyd, a'u cyfraniad at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru."

Mae'r cynnydd, medd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) Cymru, yn "mynd peth ffordd at gydnabod ymdrechion anferthol meddygon yn ystod y pandemig Covid-19," ond mae trafodaethau'n parhau i sicrhau "t芒l priodol" wedi "blynyddoedd lawer o godiadau cyflog llai na chwyddiant".

Mi fydd Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar godiadau cyflog posib i athrawon hefyd.

Ffynhonnell y llun, PA

Mae'r gweithwyr sy'n cael y codiad cyflog yn cynnwys:

  • ymgynghorwyr;

  • meddygon dan hyfforddiant;

  • meddygon arbenigol ac arbenigol cyswllt;

  • ymarferwyr cyffredinol sy'n derbyn cyflog; a

  • deintyddion.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu'r GIG, sydd unwaith eto wedi dangos ei ymroddiad diwyro drwy ddarparu gofal iechyd rhagorol mewn amgylchiadau eithriadol o anodd yn ddiweddar," meddai Mr Gething.

Ychwanegodd nad yw'r Trysorlys y DU yn rhoi cyllid ychwanegol "i helpu i dalu am gost unrhyw gynnydd dros 1%" a bydd y gwahaniaeth felly'n dod o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Minerva Studio/Getty Images

"Mae mwy o alw nag erioed ar y GIG ar adeg o brinder staff, ac mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o galed ar feddygon wrth iddyn nhw frwydro'r pandemig Covid-19, "meddai cadeirydd Cyngor BMA Cymru, Dr David Bailey.

"Mae'r cyhoeddiad yma'n dangos fod Llywodraeth Cymru yn deall gwerth meddygon sy'n gweithio'n ddiflino i wella a chynnal iechyd pobl Cymru, a bydd yn mynd peth ffordd at roi sicrwydd iddyn nhw fod eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi."

Ond mae cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorwyr BMA Cymru, Dr Phil Banfield, yn dweud na fydd ymgynghorwyr yn gweld y cynnydd ddylen nhw gael yn eu t芒l oherwydd y modd mae'r setliad ariannol wedi'i wneud eleni.

Ychwanegodd eu bod wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru i gydweithio er mwyn datrys y sefyllfa honno.