Llawenydd i deuluoedd wrth i reolau gael eu llacio
- Cyhoeddwyd
Mae wedi bod yn gyfnod hir i rai yn Sir G芒r - ond o'r diwedd mae teuluoedd a pherthnasau sydd wedi bod ar wah芒n am bedwar mis yn cael cwrdd 芒'i gilydd unwaith eto.
Yn sgil llacio'r rheolau yn ymwneud 芒 Covid-19 mae cartrefi gofal sydd dan reolaeth y cyngor sir nawr yn caniat谩u i gyfarfodydd o'r fath ddigwydd wyneb yn wyneb.
Mae hi wedi bod yn bedwar mis ers i Jean Emanuel allu cwrdd 芒'i hwyres Clare Hale.
Mae Jean yn un o breswylwyr Y Plas yn Felinfoel, Llanelli. Doedd hi ddim wedi gweld aelod o'i theulu yn y cnawd ers cyn y cyfnod clo.
Yn 么l Clare roedd y profiad yn un emosiynol iawn.
"Mae wedi bod yn ffantastig, wir wedi bod yn sbesial i weld ein gilydd 'to," meddai.
"Ma' wedi bod werth y byd heddi' gallu cael gweld ei gwyneb hi a gweld ei bod hi'n iawn ac yn hapus. Mae wedi bod yn ffantastig, just gallu ei gweld hi unwaith eto.
"Ni wedi cael sawl galwad whatsapp a zoom ond mae ei gweld hi'n edrych mor dda ac yn hapus yn amhrisiadwy."
Roedd Jean hefyd wrth ei bodd yn gweld ei hwyres unwaith eto.
"Mae'n wych - y peth gorau. Ni erioed wedi bod yn rhai am lefain na dagrau, ond just hapusrwydd.
"Fe wnaethom s么n am bopeth - y plant, teulu. Mae'n anodd ei roi mewn geiriau - ma' just yn wych."
Fe wnaeth Jean ddathlu ei phen-blwydd yn 90 yn ystod y cyfnod clo - amser anodd arall i'r teulu oedd yn methu ymweld oherwydd y cyfyngiadau.
Ond dywed Clare fod staff y cartref gofal wedi bod yn ardderchog.
"Roeddem wedi gobeithio cael parti bychan ond doedd dim modd gwneud hynny.
"Ond fe wnaeth y cartref roi cacen pen-blwydd ac anfon y lluniau i ni - roedd hynny'n sbesial iawn."
'Methu cael cwtsh'
Mae'n rhaid gwneud apwyntiad cyn gallu ymweld, a dim ond dau berthynas sy'n cael bod yn y cartref ar y tro.
Mae'n rhaid cyfarfod y tu allan a gyda sgrin yn gwahanu'r preswylydd a'r ymwelwyr.
"Er bod y sgrin yno fi'n gallu gweld yn glir, gweld hi'n gwenu, gweld hi'n edrych yn iach, y gwallt yn edrych yn neis er bo ni methu cael cwtsh - mae gallu gweld ei n gilydd yn rili rili ffab."
Does yna ddim llawer o achosion coronafeirws wedi bod ymhlith trigolion y Plas, ond dywedodd y rheolwr Jayne Gingell fod y cyfnod wedi yn un heriol.
Ychwanegodd fod gallu gwahodd perthnasau i ymweld wedi bod yn ddigwyddiad allweddol i staff a phreswylwyr
"Mae'n gwneud gymaint i'w lles - mae gan y cleientiaid rhywbeth i edrych mlaen at - ac mae'r teuluoedd wedi eu cyffroi - mae'n codi ysbryd pawb.
"Pan rydych yn dweud fod ymwelwyr yn dod - dyw hi ddim yn bwysig pa mor galed ni'n trial gwneud pethau mor hwylus 芒 phosib Iddyn nhw - ond does dim byd mor bwysig 芒 theulu."
Llunio rota
Mae Clare a Jean eisoes yn paratoi ar gyfer eu cyfarfod nesaf.
Ond mae yna un broblem, mae'n rhaid penderfynu pwy sy'n cael ymweld gyntaf, meddai Clare.
"Mae gennyf ddau o blant ac mae yna aelodau eraill o'r teulu sydd am ymweld felly dwi'n meddwl y bydd yn rhaid i mi wneud rota!"
Dywedodd Jean, sy'n wreiddiol o Rydaman, mai diwrnod yr aduniad oedd un o'r diwrnodau gorau iddi ers tro byd.
"Mae wedi cynhesu'n nghalon i. Mae'r tywydd wedi bod ychydig yn oer, ond mae'n hawdd anghofio hynny oherwydd cynhesrwydd gallu cyfarfod unwaith eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020