Llacio'r cyfyngiadau: Beth sy'n ailagor yng Nghymru a phryd?
- Cyhoeddwyd
Bydd atyniadau twristaidd dan do, sinem芒u, safleoedd gwersylla a pharciau chwarae yn ailagor yn yr wythnosau nesaf.
Mae prif weinidog Cymru wedi cyhoeddi nifer o newidiadau fel rhan o'r adolygiad tair wythnosol o'r cyfyngiadau coronafeirws.
Am y tro cyntaf, daeth cyhoeddiad y bydd tafarndai, caffis a bwytai yn cael agor tu fewn ar 3 Awst, cyn belled 芒'u bod wedi llwyddo i agor yn "saff ac yn llwyddiannus" yn yr awyr agored.
Fe gadarnhaodd Mark Drakeford y newidiadau yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru amser cinio ddydd Gwener.
Pwysleisiodd y byddai'r newidiadau'n dod i rym ar yr amod bod nifer yr achosion positif o coronafeirws yn parhau i ostwng.
Dyma'r newidiadau a'r dyddiadau gafodd eu cadarnhau:
Dydd Sadwrn, 11 Gorffennaf
Busnesau sy'n cynnig gwyliau hunan-arlwyo neu wely a brecwast yn cael ailagor yn dilyn dileu'r cyfyngiadau ar deithio
Dydd Llun, 13 Gorffennaf
Siopau trin gwallt i gael agor unwaith eto gydag apwyntiadau
Tafarndai, caffis a bwytai i ailagor yn yr awyr agored yn unig
Atyniadau twristaidd dan do yn cael agor eto
Addoldai yn cael dechrau cynnig gwasanaethau yn raddol pan maent yn barod
Chwaraeon awyr agored, yn cynnwys hyd at 30 o bobl, yn cael dechrau eto
Dydd Llun, 20 Gorffennaf
Parciau chwarae, campfeydd awyr agored a chanolfannau cymunedol yn cael agor eu giatiau a'u drysau
Dydd Sadwrn, 25 Gorffennaf
Safleoedd gwersylla a llety gyda chyfleusterau sy'n cael eu rhannu yn cael croesawu ymwelwyr eto
Dydd Llun, 27 Gorffennaf
Y farchnad dai yn agor yn llawn eto - bydd gan bobl yr hawl i ymweld 芒 thai sydd ar werth
Sinem芒u, orielau ac amgueddfeydd hefyd yn ailagor
Siopau tat诺s a busnesau eraill o fewn y diwydiant harddwch yn cael ailagor "os bydd amodau yn caniat谩u hynny"
Dywedodd Mr Drakeford bod trafodaethau'n parhau ynghylch ailagor y sector lletygarwch dan do.
Bydd opsiynau yn cael eu hystyried ar gyfer ailagor o 3 Awst ymlaen, os yw'r amgylchiadau'n caniat谩u hynny.
Dywedodd bod trafodaethau'n parhau ynghylch campfeydd dan do, canolfannau hamdden a phyllau nofio.
Bydd y gyfraith sy'n gorfodi'r rheolau pellter cymdeithasol 2m yn cael ei newid i ganiat谩u ar gyfer y ffaith na fydd rhai diwydiannau fel trin gwallt yn gallu cydymffurfio, meddai Mr Drakeford.
Mae disgwyl i fesurau eraill, gan gynnwys gwisgo masgiau, gael eu defnyddio yn lle.
Dywedodd Mr Drakeford: "Gyda'n gilydd rydyn ni'n gwneud cynnydd da wrth atal y feirws rhag lledaenu.
"Mae oherwydd yr ymdrechion rydyn ni wedi eu gwneud gyda'n gilydd ein bod yn gallu codi'r cyfyngiadau ac ailagor rhagor o'n cymdeithas a'n heconomi."
Ond ychwanegodd bod "bygythiad coronafeirws ddim wedi mynd", a bod angen i bawb "ymddwyn mewn modd cyfrifol" drwy "barhau i gadw pellter cymdeithasol a meddwl yn ofalus am lle rydyn ni'n mynd a pham".
Dywedodd hefyd y byddai'n gwneud cyhoeddiad ddydd Llun ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Beth yw'r ymateb?
Mae undebau wedi galw am ddyddiad ar gyfer ailagor y sector lletygarwch - tra bod tafarndai wedi galw am lacio'r rheolau yn ymwneud ag ymbellhau cymdeithasol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi galw am lacio y rheol dau fetr, a galw am gynllun i ailagor safleoedd gwersylla, tafarndai, caffis a thai bwyta.
Dywed y blaid fod Llywodraeth Cymru wedi dilyn chwech allan o'u 10 argymhelliad ond bod "oedi diangen" wedi bod cyn gwneud y cyhoeddiad ddydd Gwener.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod angen "strategaeth gliriach i ddefnyddio'r capasiti profi sydd ar gael" i gyd-fynd 芒'r llacio rheolau.
"Heb y gallu i fynd i'r afael ag achosion pellach, mae'r system rhybudd cynnar yn cael ei thanseilio, ac mae'n peryglu dychwelyd at fesurau'r cyfnod clo."
Mae undeb TUC Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad am lacio'r cyfyngiadau ar fusnesau dros y tair wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020