Tr锚n Bach Yr Wyddfa yn 么l ar y cledrau, ond nid i'r copa
- Cyhoeddwyd
"Dewch ar y tr锚n bach i ben Yr Wyddfa fawr" galwodd Hogiau Llandegai, ac mi fydd modd gwneud hynny eto o ddydd Gwener ymlaen wrth i'r atyniad ailddechrau gwasanaethau.
Mae wedi bod yn wythnos brysurach i nifer o atyniadau awyr agored Cymru, wrth gwrs, wrth iddyn nhw gael ailagor wedi'r cyfnod clo.
Mae Rheilffordd Yr Wyddfa, fel sawl atyniad arall, wedi gorfod cyflwyno newidiadau er mwyn diogelu'r cyhoedd - gan geisio sicrhau na fydd y profiad unigryw o ddringo mynydd uchaf Cymru ar y cledrau'n rhy wahanol i'r arfer.
Yn 么l Chris Jones, rheolwr refeniw y cwmni, maen nhw wedi gwneud popeth posib i warchod y cwsmeriaid.
'Gaeaf hir'
"Be 'da ni 'di gorfod gwneud efo'r carriages, efo'r adrannau gwahanol 'da ni wedi gorfod rhoi perspex i fewn i wahanu'r bobl," meddai.
"Bob tro fydd y trenau'n dod i mewn, fyddan nhw'n cael eu llnau o'r top i'r gwaelod.
"'Da ni wedi haneru bron faint o bobl 'da ni'n mynd. Fel arfer o'ddan ni'n gallu mynd a thua 74 a r诺an mae o i lawr i rhyw 30 - ond mae hynny'n dibynnu os mai grwpiau neu unigolion ydyn nhw."
Mae ailagor y lein yn rhyddhad mawr i'r gwasanaeth, sydd wedi methu agor o gwbl ers cychwyn yr argyfwng Covid-19.
Y llynedd, roedden nhw wedi buddsoddi 拢1.2m mewn dau dr锚n newydd oedd yn rhedeg ar ddisel a thrydan, felly mae cael incwm eleni yn hanfodol.
"Mae 'di bod yn aeaf hir," meddai Mr Jones.
"Roedd y busnes 'di rhoi lot o bres i mewn y llynedd ond 'da ni ddim wedi bod yn cymryd pres i mewn.
"'Da ni'n edrych ymlaen i weld y trenau hybrid newydd yn cael mynd i dop Yr Wyddfa.
"Dwi'n meddwl basa hi wedi bod yn haws tasen ni wedi cael rhyw fath o ddyddiad i weithio at ond dyna ni, 'da ni'n deall bod hynny'n anodd."
Ond oherwydd y pryder am fethu 芒 chadw pellter cymdeithasol yn adeilad Hafod Eryri ar y copa, tri-chwater ffordd i fyny'r mynydd fydd y trenau'n mynd.
Er mai Rheilffordd Yr Wyddfa sy'n rheoli adeilad Hafod Eryri a chopa'r Wyddfa, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn rhan amlwg o'r trafodaethau ac yn cytuno'n llwyr gyda'r penderfyniad i beidio agor yr adeilad.
"O ran capasiti ar y copa, lle mae 'na bron i 6,000 o bobl yn cyrraedd bob dydd - o'dd hi jyst yn amhosib i agor yr adeilad a sicrhau bod pobl yn saff," meddai Helen Pye o'r awdurdod.
"'Da ni am wneud popeth fedrwn ni o ran cael y neges yna allan i ymwelwyr cyn iddyn nhw gyrraedd."
'Ychydig yn nerfus' am niferoedd ymwelwyr
Mae holl lwybrau Eryri wedi ailagor yr wythnos hon, ac mae'r awdurdod yn dweud eu bod wedi gweithio ddydd a nos i sicrhau bod yr ardal yn gallu ymdopi gyda chynnydd posib mewn ymwelwyr.
"'Da ni mewn ffordd yn aros am y penwythnos i weld be' fydd yn digwydd," meddai Ms Pye.
"Pwy a 诺yr os fydd niferoedd yr ymwelwyr yn uchel ai peidio - ond un peth 'da ni'n gwybod ydy'n bod ni 'di gwneud pob dim fedran ni i sicrhau bod yr ardal a'r amgylchedd yn cael ei warchod.
"'Da ni, fel y cymunedau, ychydig yn nerfus i weld be' fydd yn digwydd - ond yn croesi bysedd bydd popeth yn iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020