Beth mae cyhoeddiad y Canghellor yn ei olygu i Gymru?
- Cyhoeddwyd
Ail gymal y cynllun i warchod gweithwyr ac arbed yr economi - dyna sut oedd y Canghellor Rishi Sunak am ddisgrifio'r cyhoeddiad heddiw, gyda chadarnhad bod y cynllun cynnal swyddi - y ffyrlo - i ddod i ben yn yr Hydref.
Ond roedd 'na gynllun arall lan ei lawes - bonws i gyflogwyr, o 拢1,000 am bob gweithiwr fyddan nhw'n cadw ar waith tan Ionawr nesa.
Cwestiynu'r cynllun wnaeth Llafur - pa mor effeithiol fydd hynny wrth sicrhau bod y sectorau cywir yn cael eu targedu?
Ond wrth i'r cynllun cynnal swyddi ddod i ben, fydd gweithwyr yn gobeithio bod digon o addewid mewn 拢1,000 i'w gwarchod nhw drwy'r misoedd anodd sydd i ddod.
Bydd y cynllun hwnnw'n weithredol yng Nghymru, fel yn Lloegr - ynghyd 芒 chronfa gwerth 拢2 biliwn i roi profiad gwaith i bobl 16-24 oed, a'r toriad mewn Treth ar Werth i'r sector lletygarwch ac atyniadau twristaidd.
Fe fydd yr addewid i dalu 50% o bris bwyta allan o ddydd Llun i ddydd Mercher yn berthnasol yng Nghymru hefyd, ond tra bod bwytai a thafarndai dal ond yn cael agor yn yr awyr agored fan hyn, bydd mwy fyth o bwysau ar Lywodraeth Cymru nawr i ganiat谩u i'r sector i agor yn llawn erbyn i'r cynllun ddod i rym fis Awst.
Cwestiwn arall i Lywodraeth Cymru fydd beth i'w wneud yngl欧n 芒'r treth ar brynu t欧.
Yn Lloegr, o fory ymlaen, fydd y dreth stamp ar brynu t欧 hyd at 拢500,000 yn cael ei esgusodi.
Yng Nghymru, a'r dreth wedi ei datganoli, a fydd y Llywodraeth fan hyn yn dilyn yr un drefn i adfywio'r farchnad dai?
Yn 么l ffigyrau un sy'n well mewn mathemateg na finne - byddai prynu t欧 gwerth 拢499,000 yng Nghymru yr wythnos nesa yn golygu 拢17,375 mewn treth - tra bod dim i'w dalu yn Lloegr.
Ond gwerth cofio mai eithriadau yw tai drud felly fan hyn - pris cyfartalog t欧 yng Nghymru, medd un arwerthwr adnabyddus, yw 拢183,000.
Fe fydd 拢500m ychwanegol i Gymru, medd Swyddfa Cymru, yn sgil cyhoeddiad Rishi Sunak heddiw.
Ond wedi rhybuddion cyson Mark Drakeford nad yw'r "ffigyrau penawdol" yn adlewyrchu'r geiniog galed, bydd yn rhaid aros i weld beth yw'r cam nesa gan Lywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020