Mark Drakeford: Delio gyda'r DU yn 'brofiad hollol ddi-drefn'

Nid yw'r prif weinidog yn rhagweld y bydd Llywodraeth Cymru'n anghytuno gyda rhestr Llywodraeth y DU o wledydd na fydd pobl yn gorfod mynd i cwarant卯n ar 么l bod yno.

Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn golygu na fydd pobl sy'n cyrraedd 50 a mwy o wledydd fel Ffrainc, Sbaen a'r Almaen yn mynd i cwarant卯n. Dyw hynny ond yn berthnasol yn Lloegr ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i'r rhestr derfynol o wledydd gael ei chyhoeddi maes o law.

Ond wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd Mark Drakeford fod delio gyda Llywodraeth y DU ar y mater wedi bod "yn brofiad hollol ddi-drefn".

Llywodraeth Cymru fydd 芒'r gair olaf wrth benderfynu ar newidiadau yng Nghymru.

Mewn ymateb, dywedodd Boris Johnson fod cynlluniau teithio Llywodraeth y DU wedi eu ymarfer ers peth amser.

Cyhoeddi gyntaf, meddwl wedyn

Dywedodd Mr Drakeford yn y gynhadledd: "Dydw i ddim yn disgwyl i Lywodraeth y DU greu rhestr fyddai'n niweidio iechyd pobl yma yng Nghymru.

"Ond mae'r ddeddf yn galw arnom i ofyn i'n prif swyddog meddygol i wneud asesiad annibynnol o'r rhestr, a phe bai yntau yn dod i gasgliad gwahanol yna fe fyddwn yn dilyn ei gyngor yntau."

Ychwanegodd: "Os fuodd yna esiampl erioed o wneud cyhoeddiad yn gyntaf a wedyn ceisio gweithio allan beth mae hynny'n feddwl, dyna yr ydym wedi ei weld ers i'r cyhoeddiad yma gael ei grybwyll gyntaf yn y wasg.

"Dydd ar 么l dydd ry'n ni wedi ceisio cael ateb call gan Lywodraeth y DU o sut y maen nhw'n bwriadu gwneud y newidiadau yma a pha wledydd y maen nhw'n bwriadu cynnig y trefniadau newydd yma iddyn nhw... rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod yn brofiad amhosib i'w ddilyn."

Ychwanegodd Mr Drakeford nad yw'n gwybod tan nawr yr union restr o wledydd y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi yn y pen draw.

Pan fydd y rhestr ar gael, meddai, fe fydd prif swyddog meddygol Cymru yn darparu ei gyngor.

Yng nghynhadledd y wasg yn Downing Street brynhawn dydd Gwener, fe ofynnwyd i Boris Johnson am y feirniadaeth o gyfeiriad llywodraethau Cymru a'r Alban am y syniad o goridorau teithio.

Dywedodd Mr Johnson fod cynllun Llywodraeth y DU i greu'r fath goridorau wedi ei ymarfer ers amser maith.

Ychwanegodd efallai fod gan y llywodraethau eraill farn wahanol am bethau, ond ei argraff oedd fod y DU ar y cyfan yn dilyn llwybr tebyg, er ar gyflymder ychydig yn wahanol.