91Èȱ¬

Sut aeth y bore cyntaf 'nôl yn yr ysgol?

  • Cyhoeddwyd
Sicrhau pellter cymdeithasol yn y neuadd ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Llai nag awr cyn agor Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen

Mae disgyblion ysgol wedi dechrau dychwelyd i'w dosbarthiadau yng Nghymru dri mis wedi i argyfwng coronafeirws arwain at gau'r drysau i'r mwyafrif.

Grwpiau llai nag arfer sydd wedi cyrraedd hyd yn hyn, gyda phob disgybl yn cael cyfle i ddychwelyd am gyfnod byr dros y tair wythnos nesaf.

Lles y disgyblion fydd yn cael blaenoriaeth dros yr wythnosau nesaf yn hytrach na'u haddysg yn ôl arweinwyr o fewn y maes. Mae mesurau ymbellhau cymdeithasol llym mewn grym a dosbarthiadau wedi'u haddasu o ganlyniad.

Mae'r ysgolion wedi bod ar agor i ddisgyblion bregus a phlant gweithwyr allweddol yn unig ers mis Mawrth.

Yn ôl yr undebau athrawon, mae athrawon yn falch iawn o'r cyfle i weld eu disgyblion unwaith eto, ac mae nifer o ysgolion wedi cyhoeddi negeseuon ar wefannau cymdeithasol i groesawu eu disgyblion.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ysgol Syr Hugh Owen

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ysgol Syr Hugh Owen

Ar raglen Post Cyntaf ar 91Èȱ¬ Radio Cymru y bore 'ma fe ddywedodd Pennaeth Ysgol Gwaen Gynfi, Deiniolen, ei bod hi'n deall yn iawn nerfusrwydd rhieni sy'n dewis peidio anfon eu plant i'r ysgol.

"Rhaid i ni barchu'r rheini sydd heb ddeud y byddan nhw'n dod a'u plant i'r ysgol," medd Catrin Gwilym, "Fyddan nhw ddim yn colli allan yn addysgol."

Fydd yr un rhiant sy'n dewis peidio anfon eu plant nol i'r ysgol yn cael dirwy a bydd disgyblion sy'n llochesu yn parhau i ddysgu o adref.

Dydi pob ysgol ddim yn ailagor chwaith. Bydd ysgolion Ynys Môn yn aros ar gau am y tro wedi clwstwr o achosion coronafeirws mewn ffatri gig ar yr ynys. Mae pum ysgol ym Mlaenau Gwent yn aros ar gau hefyd oherwydd problem gyda'r cyflenwadau dŵr.

Disgrifiad,

"Diwrnod emosiynol" wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol

Mae disgwyl tua 30 o blant yn Ysgol Gwaun Gynfi heddiw, gyda thri dosbarth - blwyddyn 6, 5 a 2 gyda dim mwy na 6 o blant mewn unrhyw ddosbarth.

Bydd pob plentyn sy'n cyrraedd yr ysgol yn cael eu tymheredd wedi'i brofi cyn cael mynediad. Cam mae'r brifathrawes yn ei ddweud sydd wedi arwain at rai rhieni i gadw eu plant adref.

Fel ysgolion eraill ar draws Cymru, bydd athrawon Ysgol Gwaun Gynfi yn parhau i ddarparu gwersi arlein tan ddiwedd y tymor hefyd.

"Tydi ysgol ddim i fod fel hyn yn sicr. Da ni'n gneud y gora'."

Yn ôl Ms Gwilym, mae'n siom nad oedd modd cadw'r ysgolion ar agor am bedwaredd wythnos.

"Roedden ni 'chydig bach yn siomedig bod y pedair wythnos yna wedi mynd yn dair wythnos.

"Ond un peth, o agor rwan cyn yr haf, mae o'n rhoi cyfle i ni weld sut mae pethau'n gweithio. Falle bo ni heb wneud rhai pethau'n iawn - mae'r asesiad risg wedi'i wneud - ond mae'n debyg falle y bydd rhaid newid hwnnw wrth i'r daith wythnos fynd yn eu blaen.

"Da ni jyst yn gobeithio neith y tywydd wella ac y caiff y pant fynd allan rhyw ychydig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pennaeth Ysgol Gynradd Cerrigydrudion Eirlys Edwards yn dweud bod ailagor wedi bod yn her

Yn Ysgol Gynradd Cerrigydrudion yng Nghonwy, mae'r neuadd wedi'i throi yn ystafell ddosbarth am y tro. 80 o blant sydd yn gallu dod i'r ysgol fel arfer, ond ar hyn o bryd, cyfanswm o 26 o blant sy'n cael mynediad ar yr un pryd - yn cynnwys plant gweithwyr allweddol.

Deiseb yn galw am ailagor ysgolion yn llawn

Yn y cyfamser, mae dros 2,000 o bobl wedi arwyddo deiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod paratoadau'n cael eu gwneud er mwyn i blant a phobl ifanc gael addysg llawn ym mis Medi.

Cafodd y ddeiseb ei llunio gan Elfed Williams o Lanrhaeadr Dyffryn Clwyd.

"Ryda'n ni wedi gofyn i Kirsty Williams i ddod ymlaen efo cynllun ar gyfer mis Medi," meddai ar raglen Post Cyntaf.

"Ar hyn o bryd does dim golwg glir ynglŷn â beth fydd yn digwydd ym mis Medi ac yn siomedig nad oes yna gynllun erbyn hyn.

"Yn ddelfrydol fe hoffwn i weld y plant yn ôl mewn addysg llawn amser. Maen nhw wedi bod ar eu colled yn y tri mis diwethaf ac er bod athrawon wedi bod yn brysur iawn yn troi'i gorau i helpu, mae angen eu cael y plant yn ôl yn llawn amser i gael addysg drwy'r dydd.

"Nid pob plentyn sydd â band eang adre neu laptop neu dabled i weithio o adre."

Mae diffyg cydraddoldeb o ran addysg ddigidol wedi bod yn bryder i nifer o'r undebau athrawon dros y tri mis diwethaf hefyd.

"Dydy hi ddim yn broblem hawdd i'w datrys," medd Mr Williams.

"Mae angen cynllunio rŵan er mwyn rhyw fath o sicrwydd bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd.

"Mae gen i blentyn ym mlwyddyn 10, blwyddyn hanfodol iawn, ond mae angen sicrhau eu bod nhw yn cael addysg llawn amser o fis Medi."

Dywed y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y byddai hi'n croesawu'n fawr petai ysgolion yn gallu dychwelyd yn llawn ym mis Medi petai'r cyngor gwyddonol yn nodi bod hynny yn ddiogel.

Ond dywedodd bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer amrywiol sefyllfaoedd.