91热爆

Colli swyddi Castell Howell yn 'ergyd drom'

  • Cyhoeddwyd
Fan Castell HowellFfynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cwmni Castell Howell yn cyflogi 700 o weithwyr

Mae pryder mawr am effaith colli swyddi cwmni bwyd Castell Howell ar economi leol Sir G芒r.

Yn 么l arweinydd y cyngor Emlyn Dole, byddai colli swyddi yn y cwmni, sy'n cyflogi 700 o bobl, yn ergyd ddifrifol.

Mae Castell Howell wedi dechrau ymgynghoriad ar ddiswyddiadau yn sgil effaith y pandemig coronafeirws.

"Mae'n mynd i fod yn ergyd drom i ni, does dim amheuaeth am hynny," meddai Mr Dole wrth raglen y Post Cyntaf ar 91热爆 Radio Cymru.

"Mae'r sector ymwelwyr, bwyd a diod werth rhyw gant saithdeg o filiynau i economi Sir G芒r, felly bydd hi'n ergyd ddifrifol."

Dyw Bwydydd Castell Howell, sydd a'i bencadlys yn Sir Gaerfyrddin, ddim wedi datgelu faint o swyddi sydd yn y fantol eto.

Ond maen nhw'n dweud bod gwerthiant wythnosol wedi cwympo 65%.

Dywedodd y cwmni bod ei "chwsmeriaid craidd" - ysgolion, tafarndai, bwytai a gwestai - yn annhebygol o fod yn gweithredu'n arferol am rai misoedd. O achos hynny mae nhw wedi dechrau'r broses ymgynghori.

"Ry' ni wedi bod yn gweithio ochr yn ochr 芒 nhw ers blynyddoedd ac yn arbennig yn ystod y pandemig," medd Emlyn Dole.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Emlyn Dole yn dweud bod y newyddion yn "ergyd personol i nifer o deuluoedd"

Mae Cyngor Caerfyrddin wedi bod yn defnyddio Bwydydd Castell Howell ar gyfer creu pecynnau bwyd am ddim i ysgolion, a hefyd i bobl sy'n cysgodi.

"Ry' ni am barhau gyda'r cydweithio yma, achos yr ergyd economaidd yna wrth gwrs, ond hefyd yr ergyd personol i nifer o deuluoedd sy'n ddibynnol ar y gwaith yna, ac mae gennym ni gyfrifoldeb drostyn nhw," medd Mr Dole.

Mae'r cyngor wedi cysylltu a Llywodraeth Cymru i ofyn am gymorth o safbwynt Castell Howell a chwmn茂au eraill.

Mae 'na ofnau yn lleol y gallai cwmn茂au sy'n werthfawr i'r gymuned a'r economi leol ddiflannu cyn i'r pandemig ddod i ben.

"Ma' fe'n hanfodol bod busnesau twristiaeth gyda ni yn y gorllewin yn cael rhyw fath o haf, gan eu bod nhw gyd yn wynebu trydydd gaeaf ar hyn o bryd mewn ffordd.

"Ond does dim amheuaeth gen i y bydd blwyddyn nesaf - os yw'r pandemig yn caniat谩u - yn un eithriadol o dda yng nghyd-destun twristiaeth Sir G芒r a Chymru yn gyffredinol, gyda mwy o bobl yn aros yn y Deyrnas Unedig ar gyfer eu gwyliau.

"Ond os nad y' ni'n ofalus iawn, bydd llawer o'r busnesau hynny ddim ar gael i groesawu twristiaid blwyddyn nesa."

Dyfodol ansicr

Roedd gan y cwmni drosiant o 拢126m yn 么l y cyfrifon diweddaraf yn 2018, ond mae'r pandemig wedi cael cryn effaith ar farchnadoedd y busnes yn ddiweddar.

Yn 么l datganiad y cwmni: "Er ein hymdrechion i gynyddu gwerthiant i gwsmeriaid sydd ddim yn rai craidd, gwerthiant i'r cyhoedd a marchnadoedd newydd eraill, mae ein gwerthiant wythnosol i lawr 65%, ac mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd yn adfer tan ymhell yn 2021."

'Penderfyniad anodd iawn'

Wrth i gynllun diogelu swyddi Llywodraeth y DU ddod i ben ym mis Hydref, dywedodd y cwmni bod angen dechrau'r ymgynghori, "fel bod colledion ariannol yn cael eu lleihau" pan ddaw'r gefnogaeth i ben.

Ychwanegodd y cwmni y byddai swyddi'n cael eu torri'n orfodol, yn wirfoddol ac ar sail lleihau oriau unigolion.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Brian Jones, ei fod yn gobeithio bod unrhyw swyddi sy'n cael eu torri yn cael eu hadfer pan fydd y sector yn cryfhau unwaith eto.

"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn, ac mae'n fy nhrist谩u yn bersonol gan fy mod yn deall y pryder y bydd yr ymgynghoriad yn ei achosi i'r gweithwyr," meddai.

"Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i'w cefnogi yn ystod y cyfnod hwn."