91热爆

Llifogydd am y trydydd tro yn Rhondda Cynon Taf eleni

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Shelley Rees-Owen nad yw pobl Pentre yn teimlo yn ddiogel yn eu cartrefi

Mae bron i 200 o gartrefi wedi cael eu taro gan lifogydd yn Rhondda Cynon Taf - y trydydd achos o lifogydd yn yr ardal eleni.

Mae'r cyngor yn dweud bod nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi unwaith eto wedi i storm achosi fflachlif.

Mae Gwasanaeth T芒n ac Achub y De yn dweud iddyn nhw dreulio pump awr yn pwmpio dwr o gartrefi yn Pentre.

Llifodd d诺r i'r pentref ddwywaith yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror gan achosi difrod gwerth hyd at 拢5m.

Yn 么l y gwasanaeth t芒n, daeth 51 galwad am help o 18:15 ddydd Mercher.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Si么n Tomos Owen

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Si么n Tomos Owen

"Roedd e'n ofnadwy," medd Cynthia Mainwaring, sy'n byw ym Maerdy, "Roedd cymaint o law. Yn ffodus, fe lwyddon ni osod tywelion a phapur lawr. Ond daeth e drwodd o fewn munudau, ac wedyn roedd e wedi mynd.

"Dyw'r difrod ddim yn rhy wael, sai'n credu, ond bydd e'n cymryd sbel i'w lanhau e i gyd. Byddwn ni'n cofio'r cyfnod clo am beth amser fan hyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cymdogion oedrannus i Cynthia Mainwaring wedi gorfod gadael eu t欧 ar 么l cysgodi drwy'r cyfnod clo.

Fe ddywedodd Nigel Williams o Wasanaeth T芒n ac Achub y De bod Pentre wedi'i daro yn "eithaf gwael".

Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan wedi dweud bod y cyngor wedi darparu adnoddau ychwanegol i gefnogi criwiau'r prif-ffyrdd ac i helpu'r gwasanaethau brys i ddelio 芒'r fflachlif.

Ychwanegodd bod y llifogydd diweddaraf "yn anffodus wedi taro cymunedau oedd wedi dioddef dinistr y llifogydd yn gynharach eleni".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd y gwaith o lanhau yn Pentre wrth iddi lawio eto fore Iau

Mae un eiddo yn Rees Place wedi dymchwel yn rhannol ac mae peirianwyr strwythurol wedi archwilio'r safle.

Mae un o drigolion Queen Street wedi dweud wrth 91热爆 Cymru ei fod e'n grac yn gwylio'i gartref dan dd诺r unwaith eto.

"Hoffen i weld rhai o'r cynghorwyr yn byw yn y tai yma a mynd drwy beth ry'n ni wedi byw drwyddo fe," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw'r pentrefwr yma ddim wedi gallu dychwelyd i'w gartref ers y llifogydd llynedd, a nawr mae'n digwydd eto

"Dwi ddim wedi bod i'r t欧 yma ers mis Chwefror. Roedd rhaid i fi fynd i fyw gyda 'merch i rownd y gornel."

Mae'r gwasanaethau brys yn dweud eu bod wedi cael eu galw i bentref cyfagos Maerdy hefyd.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma'r trydydd troi i rai o'r cartrefi yma ddioddef llifogydd eleni

Mae galw nawr am gynllun ymateb cryf i geisio sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.

"Mae angen plan, mae angen ni eistedd lawr gyda arweinydd y cyngor a gweld beth yn gwmws sydd wedi digwydd," dywedodd cynghorydd Pentre, Shelley Rees-Owen ar raglen y Post Cyntaf ar 91热爆 Radio Cymru fore Iau.

"Mae'n debyg bod 'na broblem gyda'r pwmp dwr, ac wedi cael gymaint o law mewn cyn lleied o amser a bod y dr锚ns yn methu c么po. Mae angen plan yn gloi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynghorydd Pentre, Shelley Rees-Owen, yn trafod y dinistr yno pan ddaeth y tywydd garw ym mis Chwefror

Ychwanegodd bod y sefyllfa wedi effeithio'n aruthrol ar drigolion lleol sy'n methu teimlo'n ddiogel yn eu tai.

"Mae'n ofnadwy," meddai. "Dyw pobl ddim ishe bod yma. Dyw pobl ddim eisiau bod yn eu tai a dyna le mae pobl yn teimlo mwyaf saff, yn enwedig yn ystod pandemig yw yn eu cartrefi a dyw pobl Pentre ddim yn teimlo yn saff yn eu cartrefi."

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan AlunThomas

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan AlunThomas

Ddydd Mercher, fe rybuddiodd Swyddfa'r Dywydd bod 'na storm o fellt a tharanau yn debygol o effeithio ar 20 o 22 o siroedd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Met Office
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dau rybudd melyn ar gyfer Cymru ddydd Iau

Mae'r AS Plaid Cymru yn y Rhondda, Leanne Wood wedi galw am ymchwiliad ar frys i weld pam bod trydydd llifogydd difrifol wedi taro'r ardal mewn cyn lleied o amser.

"Mae pobl yn grac a rhwystredig bod hyn wedi digwydd ddwy waith yn barod eleni. Mae rhai cartrefi wedi dioddef llifogydd fwy na hynny. Rwy'n rhannu eu rhwystredigaeth a'u dicter - dyw e ddim yn dderbyniol.

"Beth ry'n ni ei angen yw cymorth ar frys gan yr awdurdodau amrywiol i atal rhagor o lifogydd."

Dywedodd ei bod yn grac nad oedd bagiau tywod ar gael ar ddechrau'r llifogydd diweddaraf, ac na ddylai'r trigolion lleol fod wedi gorfod dibynnu ar gymorth cwmni adeiladwyr lleol.

Mae hefyd yn dweud y byddai'n cefnogi rhoi saib i drigolion y tai dan sylw o dalu treth cyngor am gyfnod.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Leanne Wood 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Leanne Wood 馃彺鬆仹鬆仮鬆伔鬆伂鬆伋鬆伩

Mae 'na rybudd arall am storm fellt a tharanau yn holl siroedd de Cymru ar gyfer dydd Iau - gan sgubo draw i sir Gaerfyrddin a gogledd Aberhonddu ym Mhowys rhwng canol dydd a 21:00.

Mae 'na rybudd melyn am law trwm rhwng 03:00 tan 12:00 ddydd Iau ym mhob sir heblaw am Sir Benfro, Bro Morgannwg a Chaerdydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Soffa ar y stryd wedi llifogydd Pentre