Yr Aelod Senedd Mohammad Asghar wedi marw
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r gwleidydd Mohammad Asghar yn 74 oed.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi derbyn "adroddiad am argyfwng meddygol" fore Mawrth.
Cafodd ei ethol i'r Senedd yn 2007 fel aelod rhanbarthol dros Blaid Cymru yn Nwyrain De Cymru, ond gadawodd y blaid yn 2009 gan ddweud nad oedd bellach yn cytuno gyda pholis茂au Plaid Cymru.
Ymunodd gyda'r blaid Geidwadol, ac fe gafodd ei ethol fel aelod rhanbarthol drostyn nhw yn 2011.
Cyn mentro i'r Senedd, bu'n gynghorydd yng Nghasnewydd gan gynrychioli Llafur a Phlaid Cymru.
Cafodd ei eni yn ninas Peshawar, sydd bellach yn Pakistan ond a oedd ar y pryd yn rhan o wladychfa Brydeinig India.
Graddiodd o Brifysgol Peshawar cyn dod i fyw i Gasnewydd a chymhwyso fel cyfrifydd, ac yno y dechreuodd ei yrfa wleidyddol.
Aelod BAME cyntaf y Senedd
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies: "Mae'r newyddion yn ergyd drom i'r gr诺p Ceidwadol yn y Senedd.
"Mae ein cyfaill a chydweithiwr Mohammad Asghar - neu 'Oscar' fel yr oedd llawer yn ei adnabod - wedi gwasanaethau pobl Dwyrain De Cymru yn y Senedd am fwy na 13 o flynyddoedd.
"Roedd yn falch o fod yn Brydeiniwr ac yn Gymro, ac yn falch o'i wreiddiau... Roedd gan Oscar ffrindiau ar draws y spectrwm gwleidyddol ac fe wnaeth ei farc ar hanes Cymru drwy fod yr aelod BAME cyntaf o'r Senedd."
Dywedodd Alun Davies, AS Llafur Blaenau Gwent wrth drydar: "Tristwch a siom oedd clywed ein bod wedi colli Mohammad Asghar heddiw.
"Fe gawsom ein hethol ar yr un diwrnod yn 2007, ac rwy'n gwybod ei ymrwymiad llwyr i'r Senedd a'r bobl yr oedd yn eu cynrychioli. Cydymdeimlaf yn ddwys gyda'i deulu."
Dywedodd Adam Price arweinydd Plaid Cymru: "Rwyf i a Phlaid Cymru yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Mohammad Asghar.
"Cofiwn Oscar am ei ymroddiad i bobl Dwyrain De Cymru a'i wasanaeth hir yn y Senedd."
Dywedodd y Llywydd, Elin Jones ei bod wedi ei thristau gan farwolaeth sydyn "ein cyfaill annwyl, Mohammad Asghar".
"Bydd yn golled enfawr i'r Senedd," meddai. "Roedd yn ffrind i bawb ar draws y pleidiau ac yn bencampwr dros ei ranbarth a'i wlad."
Mae'n gadael gwraig, Firdaus, a'i ferch Natasha.