91热爆

Mwy yn prynu llyfrau Cymraeg ar y we yn ystod y pandemig

  • Cyhoeddwyd
llyfrau

Mae cynnydd wedi bod mewn gwerthiant llyfrau Cymraeg ar y we yn y misoedd diwethaf, yn 么l rhai o'r prif weisg.

Yn 么l Myrddin ap Dafydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch, ers dechrau mis Mai mae'r gwerthiant iddyn nhw "bedair gwaith faint ydy o fel arfer ac mae'r mis yma yn uwch eto."

Ac mae yna gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr e-lyfrau Cymraeg a Chymreig sy'n cael eu cyhoeddi ar gyfer llwyfannau electronig yn 么l y Cyngor Llyfrau.

Nhw sy'n gyfrifol am y wefan lyfrau Gwales ac am ddosbarthu llyfrau Cymreig.

Yn 么l y Cyngor mae tua 100 yn ychwanegol o'r e-lyfrau wedi eu rhoi ar y wefan yn ystod y tri mis diwethaf yn sgil cynnydd yn y galw.

Maen nhw hefyd yn y broses o ddatblygu gwefan ar gyfer e-lyfrau Cymraeg a rhai o Gymru.

Gwasg Carreg Gwalch yw un o'r rhai sy'n cyhoeddi mwyaf o e-lyfrau Cymraeg ar wefan Gwales.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gobaith Myrddin ap Dafydd yw y bydd gan lyfrau le "amlycach" ym mywydau pobl i'r dyfodol

Fe gyhoeddon nhw nifer o e-lyfrau i blant y mis yma ac maen nhw'n bwriadu gwneud mwy i blant ac oedolion yn y dyfodol os bydd arwydd eu bod yn gwerthu'n dda.

Mae Gwasg y Bwthyn, sydd yn gwerthu eu llyfrau trwy wefan Gwales y Cyngor Llyfrau, yn dweud bod arwyddion bod gwerthiant eu llyfrau nhw ar y we hefyd wedi cynyddu.

Efallai o ddiddordeb

Eisiau gallu cynnig dewis arall yn lle prynu gan Amazon oedd y rheswm pam yr aeth Gwasg Carreg Gwalch ati i gyhoeddi mwy o lyfrau ar y we pan ddigwyddodd y cyfyngiadau.

Mae Myrddin ap Dafydd yn dweud bod cael help gan aelodau eraill o'r teulu yn golygu eu bod wedi gallu marchnata mewn ffyrdd newydd.

Help y to ifanc

"'Da ni wedi hyrwyddo yn llawer iawn mwy cystadleuol a deniadol falle. Dwi'n lwcus mae to ifanc y teulu sydd yma hefo fi, mae'u harbenigedd nhw a'u hamser nhw wedi cyfrannu yn sylweddol at hyn.

"Fel arfer does gennan ni ddim mor amser i drio pethau newydd," meddai.

"Ond mae'r cyfnod rhyfedd yma wedi bod yn gyfle i ni wneud hynny. 'Da ni yn canfod ein bod ni yn medru cystadlu efo Amazon ac mae hynny yn gam ymlaen i ni."

Mae'r wasg hefyd wedi bod yn gwneud llawer mwy o ffilmiau byr ar wefannau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo a lansio llyfrau ac yn cynyddu y bas data fel bod nhw'n gallu cyrraedd mwy o bobl.

Cytuno bod mwy o werthu wedi bod ar lyfrau ar y we mae Marred Glynn Jones, Golygydd Creadigol gyda Gwasg y Bwthyn.

"'Da ni'n cael rhestr bob wythnos gan y Cyngor Llyfrau o'r llyfrau sydd wedi cael eu gwerthu a dwi yn meddwl bod o wedi mynd i fyny.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwasg y Bwthyn wrthi'n argraffu nofel Gwirionedd am y trydydd tro am fod y llyfr wedi bod mor boblogaidd

"Yn amlwg yn yr wythnos pan wnaeth y ganolfan ddosbarthu gau, ryw dri llyfr wnaethon ni werthu. Ond ar 么l hynny roedd o wedi mynd i fyny eto. Felly mae'n edrych yn addawol iawn a dweud y gwir," meddai.

Mae'r cwmni yn bwriadu dechrau cyhoeddi e-lyfrau yn y dyfodol.

"Mae o yn fwriad pendant gennon ni r诺an. Dwi'n meddwl bod ni wedi dysgu yn ystod y cyfnod yma bod o'n rhywbeth gwerthfawr i wneud.

"Mae o'n cynnig opsiynau i bobl, os ydyn nhw ddim yn gallu mynd i'r siop, neu dywedwch bod yna ryw gloi mawr yn digwydd eto, bod yna opsiwn yna i lawrlwytho e-lyfr yn hytrach nag archebu copi caled llyfr."

Cynnydd ar-lein yn 'rhywbeth dros dro'

Er bod Garmon Gruffudd, Cyfarwyddwr Y Lolfa, yn cydnabod bod yna gynnydd wedi bod mewn gwerthiant llyfrau ar y we, mae'n pwysleisio bod gostyngiad o tua 80% wedi bod mewn gwerthiant llyfrau yn gyffredinol yn ystod cyfnod y pandemig.

Rhywbeth tymor byr yw'r cynnydd yn y gwerthiant ar-lein, meddai, am fod rhai siopau llyfrau ar gau a rhai ddim yn cynnig gwasanaeth dosbarthu.

"O'n rhan ni mae'r siopau yn cynnig gwasanaeth fel cyngor ac yn y blaen a bydden ni'n gobeithio y bydd pobl yn cofio amdanyn nhw ac yn mynd yn 么l i'w cefnogi nhw.

"Rhywbeth dros dro falle i raddau pell yw'r gwerthu ar-lein sydd wedi bod.

"Yn amlwg mae wedi bod yn uwch am fod y siopau ar gau. Ond bydden ni yn gobeithio unwaith bydd y siopau yn ail agor y bydd pobl yn mynd ati i'w cefnogi nhw fwy nag erioed."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl eisiau cefnogi eu siopau lleol yn y cyfnod yma, meddai Garmon Gruffudd

Dweud fod angen cael persbectif mae Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause.

"Elfen fechan yn unig o'r sector llyfrau yw e-lyfrau," meddai.

"Mae llyfrau print yn parhau'n hollbwysig ac rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y diwydiant hwn, sy'n gwneud cyfraniad mor bwysig i'n cymunedau a'n heconomi, yn ymateb yn gydnerth i heriau a chyfleoedd y cyfnod eithriadol hwn."

Siopau i ailagor?

Y gred yw bod mwy wedi troi at ddarllen ers cyfnod y cyfyngiadau.

Mae ffigyrau gan yr ONS (swyddfa ystadegau swyddogol y DU) yn awgrymu bod 43% yn defnyddio darllen fel ffordd o ymdopi yn ystod y cyfnod clo.

Ategu hyn mae Myrddin ap Dafydd gan ddweud bod y boblogaeth yn darllen mwy ac wedi "ail ddarganfod y pleser yna ac ail ryfeddu mor wych ydy llyfrau".

Ddydd Gwener bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adolygiad o'r cyfyngiadau sydd yn eu lle yng Nghymru.

Mae'n bosib y bydd cyhoeddiad y gall siopau fel siopau llyfrau ailagor.

Croesawu hynny fyddai'r gweisg i gyd gyda'r tri yn dweud pa mor bwysig yw'r cyfle i allu pori a chael cyngor dros y cownter a'u bod yn hanfodol i'r farchnad lyfrau yng Nghymru.