Cymeradwyo cynllun 拢35m i adnewyddu Theatr Clwyd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i adnewyddu Theatr Clwyd ar gost o 拢35m wedi eu cymeradwyo.
Cafodd yr adeilad Rhestredig Gradd II ei adeiladu yn y 1970au yn Yr Wyddgrug, ond bellach mae'n dangos ei oed, gyda rhannau o'r to yn gollwng a mynediad gwael i'r anabl yn rhai o'r problemau sydd wedi eu nodi.
Dywedodd Cyngor Sir y Fflint, sydd yn berchen ar yr adeilad, y gallai'r problemau presennol effeithio ar gynnal sioeau a dram芒u.
Fe fydd y gwaith adnewyddu'n golygu creu estyniad ar flaen yr adeilad, gyda chyntedd tri llawr a bwyty, bar a chaffi.
Dywed swyddogion y theatr nad oedd gwelliannau arwynebol bellach yn ddigon i sicrhau fod yr adeilad, gafodd ei agor yn 1976, yn cydymffurfio gyda rheolau iechyd a diogelwch modern.
Dywed datganiad ar wefan y theatr: "Ers dros 40 mlynedd mae ein hadeilad wedi bod yn arloesi mewn rhagoriaeth ac yn gartref i'n cymuned ni.
"Ond mae'r adeilad angen ei ailddatblygu ar frys i sicrhau nid yn unig ei fod yn ddiogel ac yn addas i bwrpas ond hefyd i greu cartref gwyrdd ac ysbrydoledig i'n cymuned ni am y 40 mlynedd nesaf a thu hwnt.
"Bydd y prosiect unigryw yma yn sicrhau bod Gogledd Cymru'n cadw'r adnodd hanfodol a chynaliadwy yn ariannol yma ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dalu am y mwyafrif o'r gost, ac mae'r awdurdod lleol a Cyngor y Celfyddydau wedi gwario 拢1 yn datblygu'r cynllun.
O achos y pandemig coronafeirws mae'r theatr ei hun wedi bod ar gau ers mis Mawrth, gyda yn yn achos colli 拢1m mewn trosiant meddai swyddogion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020