Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd deintyddion Cymru am gyfnod 'argyfyngus'
Mae deintyddion Cymru wedi rhybuddio fod eu gwasanaeth yn wynebu cyfnod "argyfyngus" os na fydd deintyddfeydd yn ailagor yn fuan.
Daeth y rhybudd wrth i ddeintyddion leisio eu pryderon mewn llythyr at y prif weinidog Mark Drakeford.
Dywed Dr Charlie Stephanakis, sydd yn ddeintydd yng Nghaerdydd, fod ei neges ar ran 500 o ddeintyddion Cymreig yn adlewyrchu pryderon am gleifion.
Yn Lloegr mae deintyddfeydd yn cael ailagor o heddiw ymlaen.
Ailagor yn araf
Yma yng Nghymru mae camau ailagor yn cael eu datblygu gam wrth gam, gan ddechrau ym mis Gorffennaf.
Bydd modd i gleifion gael eu hasesu am ofal brys yn eu deintyddfeydd o'r cyfnod hwn.
Ond fe fydd modd i gleifion sydd angen triniaethau ymledol fel gwaith drilio barhau i gael eu cyfeirio at ganolfannau gofal deintyddol brys.
Dan y canllawiau sydd wedi eu hamlinellu gan Brif Swyddog Deintyddol Cymru, Colette Bridgman, ni fydd asesiadau a gofal cyffredinol yn cael eu hailsefydlu hyd nes Ionawr 2021.
Ond yn ei lythyr at Mark Drakeford, dywedodd Dr Stephanakis "ein bod yn wynebu diraddio iechyd deintyddol ymysg poblogaeth Cymru" os na fydd camau brys yn cael eu gweithredu.
Dywedodd y deintyddion fod cadw deintyddfeydd ar gau yn ystod y cyfnod clo wedi arwain at nifer o broblemau, gan gynnwys:
- cynnydd yn nifer y cleifion gyda phroblemau deintyddol aciwt sydd heb ei drin;
- cynnydd yn nifer y cleifion ysbyty gyda phroblemau deintyddol brys;
- colli dannedd o achos gostyngiad mewn iechyd deintyddol, problemau iechyd meddwl, a thwf mewn afiechydon dwys.
Mae wedi galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio datrys y sefyllfa.
Dywedodd y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig, sydd yn cynrychioli'r sector iechyd, fod "cynnydd sylweddol" yn y galw am weithredu cyflymach cyn 2021.
Ond yn 么l prif swyddog deintyddol Cymru mae Llywodraeth Cymru'n "gwbl ymwybodol" o'r pryderon ac fe fydd yr amserlenni'n cael eu hadolygu'n gyson.
Dywedodd Dr Bridgman bod deintyddfeydd wedi bod yn gweithio'n barod i gynnig cyngor dros y we, gyda 4,000 o gleifion wedi derbyn triniaeth mewn clinigau gofal deintyddol brys.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi bod yn aros am driniaeth yn ystod y cyfnod clo, ac fe fyddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau fod pawb yn derbyn triniaeth cyn gynted ag sydd yn bosib, ac i wneud hynny'n ddiogel," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod deintyddfeydd wedi aros ar agor yn ystod y pandemig ar gyfer triniaethau brys, a bod angen cymryd camau "ofalus a graddol" cyn ailddechrau gwasanaethau eraill.
"Mae angen cydbwyso anghenion iechyd geneuol cleifion yn erbyn yr angen i amddiffyn cleifion, timau deintyddol a chymunedau yng Nghymru rhag coronafeirws," meddai.