Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Plant Cymru'n lleisio barn am effaith coronafeirws
Mae arolwg o agweddau pobl ifanc Cymru'n awgrymu bod 54% yn pryderu y byddan nhw'n colli tir gyda'u gwaith ysgol oherwydd argyfwng coronafeirws.
Mae 23,719 o blant rhwng 3-18 oed wedi llenwi holiadur yn gofyn am eu teimladau a'u meddyliau yn ystod y pandemig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod canlyniadau'r arolwg wedi helpu i lywio'r penderfyniad i baratoi ysgolion yng Nghymru i roi cyfle i bob plentyn 'Ddod i'r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi.'
Er bod llawer o blant yn dweud eu bod wedi mwynhau rhai agweddau, fel treulio amser gyda'r teulu a chael ymarfer corff bob dydd - eu bod nhw'n gweld eisiau eu ffrindiau, ac yn pryderu y gallai eu perthnasau ddal y feirws, ac yn poeni am golli tir yn eu dysgu.
Comisiynydd Plant Cymru, Llywodraeth Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Plant yng Nghymru oedd wedi cynnal yr arolwg ar y cyd.
- Dim ond 11% o'r plant atebodd yr holiadur oedd yn dweud nad oedden nhw'n poeni am eu haddysg.
- Dywedodd 48% nad oedden nhw'n teimlo cymhelliad i wneud eu gwaith cartref.
- Roedd 27% yn dweud nad oedden nhw'n deall y gwaith oedd yn cael ei anfon atyn nhw.
- Roedd 84% yn dweud eu bod yn teimlo'n ddiogel.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru fod llawer o'r plant a'r bobl ifanc wedi dweud eu bod am gael mwy o gyswllt ar-lein wyneb yn wyneb gydag athrawon i'w helpu i ymdopi.
Cyfle i ffarwelio
Yn y grwpiau oed iau, roedd 75% o'r plant Blwyddyn 6 am gael cyfle i ymweld 芒'u hysgol uwchradd cyn cychwyn ym mis Medi, ac roedd 76% yn dweud eu bod am gael cyfle i ffarwelio 芒'u hysgol gynradd cyn symud ymlaen i'r ysgol uwchradd.
Roedd yr ymatebion wedi bwydo mewn i benderfyniad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, i ailagor ysgolion i bawb cyn diwedd tymor yr haf, yn 么l Comisiynydd Plant Cymru - penderfyniad oedd yn amhoblogaidd iawn gyda'r undebau athrawon.
Pan ddaeth y cyhoeddiad, dywedodd Dilwyn Roberts Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Rydym yn gresynu'n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ailagor cyn yr haf.
"Mae'r ystyriaethau ymarferol sydd ynghlwm 芒 cheisio sicrhau bod hyd yn oed nifer bychan o ddisgyblion yn dychwelyd cyn yr haf yn eithriadol o gymhleth - heb s么n am geisio sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddychwelyd."
Rhannu grwpiau ysgol
Fel rhan o gynlluniau'r llywodraeth, mae disgwyl i bob ysgol fynd ati'n raddol i rannu grwpiau blwyddyn yn ddosbarthiadau llawer llai, fel bod amser penodol wedi'i neilltuo gydag athrawon ac aelodau eraill y dosbarth. Bydd hyn yn golygu bod plant yn cael amser yn y dosbarth, yn siarad wyneb yn wyneb 芒'u hathro, er mwyn helpu eu dysgu ar-lein gartref.
"Yn amlwg mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i blant a theuluoedd ar draws y wlad," meddai'r Comisiynydd Plant, Sally Holland.
"Rydyn ni wedi clywed barn oedolion ar y materion sy'n codi o'r pandemig yn gyson, ond tan nawr bu'n drawiadol bod barn plant yn absennol.
"Wrth i'r Llywodraeth symud ymlaen i'r cam nesaf ar gyfer ysgolion, mae'n bwysig iawn bod pryderon plant a phobl ifanc am eu gwaith ysgol yn cael eu lleddfu. Roedd llawer o'r rhai a gwblhaodd yr arolwg am gael mwy o addysgu ar-lein, wyneb yn wyneb."
Yn 么l Sally Holland, mae'r proffesiwn addysg wedi gwneud ymdrech aruthrol i addasu ysgolion er mwyn darparu gofal plant mewn argyfwng a chadw mewn cysylltiad 芒'r plant.
"Mae'r athrawon hefyd wedi bod yn ddewr iawn yn gweithio mewn hybiau trwy'r argyfwng hwn. Ond mae'n amlwg bod llawer o blant a phobl ifanc eisiau mwy o gefnogaeth gyda'u dysgu gartref."
Un sy'n rhannu'r teimladau yw Ffion Griffiths. Mewn erthygl arbennig i Cymru Fyw mae'n dweud: "Yn bersonol 'dw i'n credu y bydd cyfle i ailgysylltu gydag athrawon yn helpu pobl ifanc ymdopi'n well gyda'r hyn sydd i ddod ym mis Medi am y "normal newydd" ac am y dyfodol."
Ychwanegodd Ffion-H芒f Davies, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros G诺yr: "Mae'r holiadur yma wedi bod yn hynod o bwysig i bobl ifanc Cymru er mwyn iddyn nhw allu dweud eu dweud am yr amser digynsail yma.
"Wrth fod yr unig holiadur o'r fath yn y DU, mae wedi pwysleisio'r ymroddiad i ddiogelu hawliau pobl ifanc yma yng Nghymru er bod rhai ffigyrau, fel y nifer o bobl ifanc sy'n teimlo eu bod yn colli allan ar ei addysg, yn peri pryder."