Covid-19: Busnesau M么n yn mentro yng nghanol pandemig
- Cyhoeddwyd
Ynghanol pryderon am ddiswyddiadau a'r economi ar stop oherwydd pandemig byd eang, mae 'na rai yn gweld cyfleon busnes newydd.
Mae siop gornel newydd wedi agor yn Llandegfan, Ynys M么n, wrth i ffigurau awgrymu bod siopau annibynnol a lleol yn ffynnu yn ystod yr argyfwng.
Roedd hen siop y pentre' wedi cau ar ddechrau'r pandemig a thrigolion yn gweld eisiau'r cyfleuster ar eu stepen drws, yn enwedig gyda nifer ohonyn nhw'n oedrannus.
'Codi calon'
A hithau newydd ymddeol o'i swydd gyda'r cyngor lleol, roedd Ffion Verburg wedi penderfynu mai dyma'r amser iddi gychwyn ar siwrne newydd.
"Ma' Richard, fy mhartner, a finna' wedi cymryd drosodd 'Siop Llandeg' ac wedi'n dychryn efo'r gefnogaeth wych," meddai Ffion.
"'Da ni'n brysur yn trio llenwi silffoedd, bob dim yn gwerthu allan.
"O'dda ni'n meddwl am y peth cyn y lockdown a phenderfynu mynd efo fo. Yn lwcus, ma' Richard wedi gallu gwneud y gwaith ar y siop gan bod o'n gweithio yn y maes adeiladu.
"'Da ni 'di gorfod g'neud y gwaith i gyd ein hunain, y teulu'n methu dod yma i helpu. Mae 'di bod yn anodd iawn.
"Dydy pobl Llandegfan ddim wedi gallu gweld ei gilydd ers misoedd a dwi'n meddwl bod hynny'n codi calon - ond i bawb fod yn reit gall o ran y social distancing.
"Dim ond tri person sy'n cael dod mewn i'r siop ar y tro. 'Da ni 'di gorfod rhoi arwyddion ar y llawr o ran y ddwy fetr, mae 'na perspex wrth y til - ond mae'n anodd prynu pethau.
"'Da ni 'di cael sanitizers gan gwmni o Sir F么n. Mae'r cwmn茂au gyd 'di bod yn ffantastig, dwi'n defnyddio cwmn茂au lleol a ma' nhw wedi'n helpu fi allan.
"O'dd pobl yn d'eud wrthon ni bod ni'n agor ar adeg amser caled ond mewn un ffordd mae'n amser da - ma' pobl yn aros yn lleol.
"Gobeithio pan fydd pobl yn cael dod eto i Sir F么n i siopa, fydda ni wedi rhoi Llandegfan ar y map."
'Ymddiried yn y darparwyr lleol'
Y gobaith fydd ailagor y post fel rhan o'r siop cyn diwedd y flwyddyn ond mae'r ochr weinyddol o drefnu hynny'n araf oherwydd y cyfyngiadau presennol.
"Eto efo'r Covid, mae'n skeleton staff yn bobman a methu cael trwodd at bobl i sortio fo, felly ma' petha'n cael eu dal yn 么l," meddai.
"Ond dwi'n gobeithio bydd o mewn cyn y Nadolig achos fydd hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r pentre', yn enwedig i'r bobl h欧n.
"Dwi'n meddwl, os dwi'n gallu gwneud hyn yn ystod y Covid - wel onwards ac upwards."
Mae mwy a mwy ohonan ni'n siopa ar y we erbyn hyn, ond mae ymchwil gan gwmni data Kantar hefyd yn awgrymu bod gwerthiant siopau cornel ac annibynnol wedi cynyddu 63% dros y tri mis diwethaf wrth i bobl siopa'n fwy lleol yn ystod y pandemig.
Gyda'r siop newydd yn Llandegfan yn rhan o ward y Cynghorydd Carwyn Jones, ac yntau'n sylwebydd manwerthu, mae'n gweld newid mwy parhaol yn ein harferion siopa.
Meddai: "Ma' pobl leol wedi mynd i'r siopau bach 'ma i gefnogi am bod nhw'n gweld o'n amgylchedd saff a bod nhw'n ymddiried yn y darparwyr lleol.
"Hefyd ma' pobl wedi gweld bod y nwyddau o ansawdd da a bod y pris yn debyg iawn i be' oeddan nhw'n dalu cynt yn yr archfarchnadoedd.
"Felly 'da ni'n debygol iawn o weld hyn yn parhau pan fydd y pandemig drosodd, y bydd arferion siopa pobl yn newid yn y tymor hir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2020