Rheolau Covid-19 'yn drysu pobl sy'n byw ger y ffin'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gwahanol ffordd y mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi taclo'r pandemig coronafeirws wedi arwain at ddryswch i bobl sy'n byw ger y ffin, yn 么l Aelod Seneddol Ceidwadol.

Dywedodd Daniel Kawczynski fod y "farn wahanol rhwng Caerdydd a Llundain" wedi cael ei amlygu yn ystod yr argyfwng.

Ychwanegodd ei fod yn siomedig o fod wedi derbyn llythyr gan un o ASau Ceidwadol Cymru, Craig Williams yn awgrymu nad oedd ei feirniadaeth o'r ffordd roedd Cymru'n cael ei rhedeg yn fuddiol.

Roedd Mr Kawczynski, sy'n cynrychioli etholaeth yn Sir Amwythig, wedi cwestiynu a oedd hi'n bryd i unoliaethwyr ystyried ymgyrchu i gael gwared ar ddatganoli yn y DU.

'Cyfiawnhau ei hun'

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement 91热爆 Radio Wales, dywedodd: "Nes i ysgrifennu un trydariad oedd yn y b么n yn dweud mod i'n bryderus iawn am sut oedd Mr Drakeford, ynng nghanol pandemig cenedlaethol, yn ceisio tanseilio'r prif weinidog [Boris Johnson] yn gyhoeddus ar adeg pan ddylen ni fod yn chwilio am gonsensws cenedlaethol."

Ychwanegodd ei bod hi'n bryd "herio Mr Drakeford a'r cysyniad o Senedd Gymreig yn fwy caled".

"Dwi ddim yn gweld pa reswm sydd gan Craig i fy meirniadu'n gyhoeddus am hynny," meddai, gan gyfeirio at ei gyd-AS Ceidwadol.

"Ydyn ni nawr yn byw mewn cymdeithas ble mae seneddwyr yn cael eu gwahardd rhag siarad am bynciau penodol?"

Ffynhonnell y llun, Senedd y DU

Disgrifiad o'r llun, Mae Daniel Kawczynski yn cynrychioli etholaeth Shrewsbury and Atcham ger y ffin 芒 Chymru

Dywedodd bod nifer o aelodau'r blaid Geidwadol wedi cysylltu ag ef i fynegi'u cefnogaeth, a bod cynghorydd yn ei ardal wedi mynegi rhwystredigaeth am nad oedd yn cael croesi'r ffin i Gymru i weld ei wyrion.

"Os yw Senedd Cymru'n mynd i barhau i gyfiawnhau ei hun i bobl Cymru mae angen iddi brofi ei bod hi'n llwyddo i ddarparu beth mae etholwyr eisiau, ac ar raddfa well nag y bydden nhw'n ei gael o gael eu cynrychioli yn Nh欧'r Cyffredin yn unig," meddai.

Ddydd Gwener fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford nad oedd Lloegr o reidrwydd yn "dempled i weddill y DU ei ddilyn" pan oedd hi'n dod at daclo coronafeirws.

"Er ein bod ni i gyd yn symud i'r un cyfeiriad ar draws y Deyrnas Unedig, i gyd yn symud n ofalus wrth codi'r cyfyngiadau, rydyn ni'n gweithredu hynny yn 么l ein cyd-destun ni'n hunain," meddai ar 91热爆 Breakfast.

Ddydd Sul dywedodd cyn-brif weinidog Cymru, Carwyn Jones nad oedd Cymru a'r Alban yn cymryd camau mwy gofalus i lacio'r cyfyngiadau coronafeirws dim ond "er mwyn bod yn wahanol".

"Mae'r syniad bod rhaid cael yr un polisi ar draws yr holl Deyrnas Unedig, dwi ddim yn credu bod hynny'n 'neud lot o synnwyr," meddai.