91热爆

Covid-19: Y cleifion yn unedau gofal dwys Cymru

  • Cyhoeddwyd
ICUFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dadansoddiad manwl o gleifion sydd wedi derbyn gofal dwys yn ysbytai Cymru am Covid-19 wedi ei gyhoeddi.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth gan y Ganolfan Archwilio ac Ymchwil Genedlaethol Gofal Dwys (ICNARC), ac mae'n cynnwys data o ddechrau'r pandemig hyd at 21 Mai.

O'r 313 o gleifion gafodd eu defnyddio yn y sampl, gadawodd 151 yr unedau'n fyw, bu farw 112 ac roedd 50 yn dal i gael eu trin mewn gofal dwys pan gafodd y data ei gasglu.

Oedran y cleifion ar gyfartaledd oedd 56.2 mlwydd oed. Roedd 211 yn ddynion (67.4%) a 102 yn ferched (32.6%).

Roedd dros hanner y cleifion yn y sampl yn dod o'r cymunedau tlotaf yng Nghymru.

Roedd nifer y bobl mewn gofal dwys yn y sampl hon a oedd o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn anghymesur o uchel o gymharu 芒 phoblogaeth Cymru gyfan.

Roedd 85.3% o'r cleifion yn wyn, 7.4% yn Asiaidd (o'i gymharu 芒 2.3% o boblogaeth Cymru yng nghyfrifiad 2011), 1.7% yn ddu, 1% yn gymysg a 4.7% yn cael eu dosbarthu fel 'arall'.

Fe ddangos yr astudiaeth hefyd fod:

  • bron i 70% o'r cleifion yn y sampl y tu allan i'r ystod pwysau iach;

  • 91.1% o'r cleifion yn byw'n annibynnol heb gymorth dyddiol cyn mynd yn wael;

  • 6.7% o'r cleifion gyda chyflyrau iechyd difrifol yn y chwe mis cyn eu diagnosis Covid-19.